Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 27 Chwefror 2018.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennyf i dri chwestiwn yn unig yma, rwy'n credu. Rwyf wedi bod yn edrych ar ymatebion y rhai sydd wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad o fewn fy rhanbarth i fy hun, felly daw hyn o'r cyfeiriad hwnnw. A gaf i ddechrau gyda safonau cyffredin i gyflawni gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn? Fel y gwyddoch, nodweddir y GIG ar hyn o bryd gan safonau sy'n adlewyrchu'r patrwm meddygol; mewn gofal cymdeithasol, mae'r aliniad gyda'r patrwm cymdeithasol i raddau helaeth iawn, ac rwy'n nodi bod Rhun wedi sôn yn gynharach am ganolbwyntio ar brofiad a'r hyn y gallasai profiad ei olygu i ni.
Nawr, yn bersonol, mae gennyf rywfaint o bryder sylfaenol y gallasai blaenoriaethau gofal cymdeithasol ei chael hi'n anodd cystadlu, os mai dyna'r gair cywir, â rhai blaenoriaethau meddygol mewn uniad cynyddol. Tybed a allech chi egluro ai pryder fel hwn sydd wrth wraidd rhwystro'r ddwy gyfundrefn arolygu rhag dod at ei gilydd ar hyn o bryd? Rwy'n nodi'r arafu, ond credaf y byddai'n dra defnyddiol inni gael esboniad ychydig yn llawnach o hynny. A thu hwnt i hynny, pa gamau diogelu yr ydych yn eu hystyried bellach i sicrhau bod llais cleifion—sut bynnag y caiff hynny ei ddiffinio, a byddaf yn dod at hynny yn y man—a barn gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol yn cael eu mantoli yn briodol gyferbyn â'r clinigwyr hynny a ystyrir yn ôl traddodiad yn arbenigwyr pan ddeuwn at sgyrsiau o'r fath? Rwy'n awyddus i wneud yn siŵr bod cydraddoldeb gwirioneddol rhwng y lleisiau hyn, yn hytrach na bod llais y GIG o'r pwys a'r ymffrost mwyaf.
Dim ond yn fyr ar gynghorau iechyd cymuned—nid wyf am fynd dros yr hyn y mae pawb arall wedi ei ddweud—rwy'n derbyn eich gair nad eich bwriad yw gadael bwlch ar unrhyw adeg yn yr eiriolaeth, ond rydych wedi ailadrodd yr ymadrodd 'corff cenedlaethol' sawl tro erbyn hyn, a chredaf mai'r hyn sy'n peri pryder i mi yn hyn o beth yw ei fod yn swnio'n debyg iawn i'r datganiad a glywsom o'r blaen yn gynharach heddiw ar y gymhariaeth rhwng Llywodraeth y DU yn ceisio cymryd y cyfrifoldeb am osod fframwaith a'r cyrff datganoledig yn gorfod dygymod â hynny. Onid ydych chi'n credu y gellid dadlau, os edrychwch ar strwythur cenedlaethol yn y fan hon, mewn gwirionedd, mai'r lleisiau a ddylai fod yn fwyaf blaenllaw wrth ddylunio hynny yw lleisiau'r cynghorau iechyd cymuned fel y'u haddasir i gynnwys gofal cymdeithasol, ac nid model o'r top i'r gwaelod? Rwy'n sylweddoli y byddwch yn dymuno cael un llais i gyfathrebu â'r Llywodraeth, ond ni ddylai hynny fod yn rhywbeth y byddwch yn ei ddylunio, a bod y cynghorau iechyd cymuned yn isradd i hynny. I'r gwrthwyneb y dylai fod, yn sicr.
Ac yna, yn olaf, dim ond dethol rhai dyfyniadau yr wyf i o'r ymatebion yr edrychais arnyn nhw, lle mae pobl—ac unigolion yw'r rhain, nawr, yn hytrach na chyrff mawr—yn dweud bod "Ymddiriedolaeth" yn gamenw, a'u bod yn disgwyl gweld 'cosbau gwirioneddol' yn cael eu rhoi ar fyrddau, nid pobl yn 'cael pensiwn mawr wrth adael', ac nad yw'r darpariaethau sy'n bodoli ar hyn o bryd ar gyfer y rhai sy'n chwythu chwiban yn effeithiol iawn. Rwy'n cymryd y bydd y ddyletswydd didwylledd yn mynd i'r afael â hynny. Ond clywais yr hyn a ddywedasoch wrth Angela Burns am Lywodraeth a'r cyfnodau y bydd yn ymwybodol o broblemau. Bydd yr ymatebion hyn yn ymdrin yn fwy â'r hyn y mae Llywodraeth yn ei wneud pan fo cydweithio yn methu ac, mewn gwirionedd, mae problem yn aros o hyd. Ceir ymdeimlad gwirioneddol, yn yr ymatebion hyn, nad oes neb yn cymryd cyfrifoldeb pan geir problem na ellir ei datrys. Os ydych yn gobeithio y bydd hyn yn creu mwy o ymddiriedaeth yn ein system lywodraethu, rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno mai da o beth fyddai hynny. Credaf fod angen ichi ystyried mewn gwirionedd—a dywedaf hynny gyda chalon drom—yr elfen gosbol ar ryw bwynt, ac nid wyf yn cael ymdeimlad o hynny yn y datganiad hyd yn hyn, beth bynnag. Diolch yn fawr iawn.