Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 27 Chwefror 2018.
A gaf i ddiolch i Caroline am ei chwestiynau? Mae'r gwerthusiad cyntaf yr ydym wedi'i gael o rwydwaith Seren yn argymell y dylem ni ystyried cyflwyno Seren yn gynharach yng ngyrfa ysgol plentyn ac rwy'n credu bod manteision gwirioneddol a bod y rhwydwaith mewn sefyllfa dda i wneud hynny. Er enghraifft, wrth ddewis pynciau TGAU, gall hynny gael effaith sylweddol ar allu myfyriwr i barhau i astudio pethau nes ymlaen, felly os nad ydym yn rhoi'r cyngor cywir ar ddiwedd blwyddyn 9, gall myfyriwr, yn ddiarwybod, gau llwybrau penodol iddyn nhw eu hunain. Felly, mewn gwirionedd, bydd cael y cymorth hwnnw yn gynharach, yn fy marn i, yn fuddiol, felly byddwn yn ei dreialu. Rydym ni eisiau cerdded cyn rhedeg. Rydym yn dal i ddatblygu ein rhaglen rhwydwaith Seren ar gyfer dysgwyr ôl-16, ond rwyf yn credu nad oes angen inni aros i berffeithio hynny cyn y gallwn ddysgu'r egwyddorion a'u cymhwyso'n gynharach yn yr ysgol.
Caroline, nid wyf am ailadrodd eto heddiw pam rwy'n gwrthod yn llwyr dethol disgyblion yn 11 oed. Rwy'n ei wrthod. Mae'r Llywodraeth hon yn ei wrthod. Mae'r holl dystiolaeth—rwyf newydd ddyfynnu'r Ymddiriedolaeth Sutton—wyddoch chi, mae ymchwilwyr annibynnol fel hynny yn dweud wrthym nad yw dethol yn ffordd o allu hybu tegwch a rhagoriaeth i'r holl fyfyrwyr, felly nid wyf yn mynd i drafod hynny oherwydd ni fyddaf i byth wedi argyhoeddi o'r dadleuon hynny gan nad yw'r dystiolaeth ar gael i'w chefnogi.
Fodd bynnag, rydych yn llygad eich lle bod angen inni fod yn agored iawn â myfyrwyr am amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael. Byddwch yn ymwybodol o fy llythyr cylch gwaith i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, lle'r ydym yn gweithio gyda CCAUC ac addysg bellach i ddatblygu prentisiaethau ar sail gradd. Gwnes i gyfarfod â dyn ifanc ddoe yn Y Pant. Rwy'n credu ei fod ym mlwyddyn 8, ac roedd e wedi bod i Brifysgol De Cymru ac wedi gweld gweithgareddau ym Mhrifysgol De Cymru, a dywedais, 'Beth ydych chi'n meddwl?' a dywedodd, 'Wel, rwy'n credu efallai fydda i'n mynd i'r brifysgol nawr, ond 'dwi ddim yn gwybod achos efallai fydda i'n gwneud prentisiaeth.' A dywedais i, 'Mewn gwirionedd, erbyn i chi gyrraedd yno, ni fyddwn yn gwneud i chi ddewis, achos byddwch chi'n gallu gwneud y ddau. Byddwch chi'n gallu ennill prentisiaeth lefel uchel hynod ymarferol, a byddwch yn gwneud hynny mewn athrofa addysg uwch, wrth inni ddatblygu ein prentisiaethau lefel gradd. Ni fydd yn rhaid i chi ddewis.' Rwy'n credu mai dyna beth y mae angen inni ei wneud, ac rydym yn ariannu ac yn gweithio gyda CCAUC i ddatblygu'r rhaglenni hynny ar y cyd â'r sector addysg bellach.
Rydych chi'n hollol iawn: mae angen inni sicrhau bod y plant hynny sy'n gobeithio mynd i rai o'n prifysgolion ond yn enwedig y rhai sy'n gobeithio gwneud cyrsiau penodol, yn arbennig ym maes meddygaeth, yn cael cyngor ar ba fath o arholiadau a pha fath o brofion gallu y mae angen iddyn nhw eu sefyll ochr yn ochr â'u cymwysterau safon uwch. Mae hynny'n rhan o waith rhwydwaith Seren. Mae ganddo ffrydiau penodol i bobl sy'n bwriadu, er enghraifft, mynd i faes meddygaeth neu'r gwyddorau milfeddygol, ac maen nhw'n cael cyngor penodol iawn ar yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud ochr yn ochr â'u cymwysterau safon uwch i roi cyfle iddyn nhw o gael y lleoedd hynny. Gwaith y rhwydwaith yw hynny. A dyna'r gwahaniaeth rwy'n clywed y mae Seren yn ei wneud. Dywedodd athro wrthyf i ddoe, 'Mae Seren yn caniatáu inni roi i'n plant yr hyn yr oedd y bobl hynny a aeth i ysgolion preifat yn ei gael erioed, yr hwb ychwanegol hwnnw, y cyngor mewnol hwnnw, y cymorth hwnnw i sicrhau bod y ceisiadau hynny yn geisiadau llwyddiannus', ac rydym ni'n gwneud hynny erbyn hyn ar gyfer ein holl blant.