– Senedd Cymru am 4:42 pm ar 27 Chwefror 2018.
Eitem 5: datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar gyrhaeddiad uchel—cefnogi ein dysgwyr mwy abl a thalentog. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i wneud y datganiad. Kirsty Williams.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Mae cynllun gweithredu'r Llywodraeth hon ar gyfer addysg, 'Cenhadaeth ein Cenedl', yn ein hymrwymo i system sy'n cyfuno tegwch â rhagoriaeth. Y gwerthoedd hyn sy'n sicrhau ein bod yn llwyddo ar ran yr holl ddisgyblion ac athrawon, cyflawni addysg gwasanaeth cyhoeddus cynhwysol ac arloesol. Gallwn fod yn haeddiannol falch o lwyddiant y grant datblygu disgyblion i godi dyheadau a sicrhau bod adnoddau ychwanegol i blant o'n cymunedau mwyaf difreintiedig, a'n Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 newydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer dull newydd o ysgogi gwelliant ar gyfer y grŵp sylweddol hwnnw o ddysgwyr. Fodd bynnag, mae system addysg sy'n wirioneddol deg a rhagorol yn sicrhau bod pob disgybl yn cael ei gefnogi i gyrraedd ei botensial, ac rwy'n glir iawn am yr argyhoeddiad hwn.
Felly, Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i ni ddilyn y dystiolaeth. Mae'n amlwg o PISA, adroddiadau blaenorol Estyn, ymchwil Ymddiriedolaeth Sutton a Choleg Prifysgol Llundain bod yn rhaid i Gymru wneud mwy i nodi, cefnogi ac ymestyn ein dysgwyr mwyaf abl. Fel yr wyf wedi'i ddweud yn flaenorol, ac a amlinellir yn 'Cenhadaeth ein Cenedl', rydym wedi ymrwymo i ddatblygu a chyflawni darpariaeth i fynd i'r afael â'r gwendid hwn yn ein system. Yn syml, mae system wirioneddol deg a rhagorol yn cefnogi ac yn ysbrydoli anghenion pob dysgwr. Mae fy natganiad heddiw yn gwneud mwy i atgyfnerthu ein hymrwymiad i system addysg deg, gyfartal, flaengar, sy'n gosod uchelgeisiau a dyheadau uchel i bawb. Nid ydym, fodd bynnag, yn dechrau o'r dechrau.
Bu gwelliannau, flwyddyn ar ôl blwyddyn, wrth i ddysgwyr bontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd, ac roedd perfformiad y llynedd ar y graddau uchaf yng nghyfnod allweddol 4 wedi aros yn sefydlog, er gwaethaf cyflwyno'r arholiadau newydd. Ar yr un pryd, cynyddodd gyfradd basio myfyrwyr safon uwch a gafodd radd A* ac A, ac mae rhwydwaith Seren yn mynd o nerth i nerth. Yn y sector addysg bellach, rydym ni wedi cyflwyno rhaglen genedlaethol i helpu ymarferwyr i gefnogi dysgwyr mwy abl a thalentog ac, yn ehangach, mae gwell penderfyniadau ynghylch dewis pynciau TGAU a mynediad cynnar eisoes wedi cael effaith. Yn y cyd-destun hwn, rwy'n dymuno cyflymu'r cynnydd ymhellach ar gyfer ein dysgwyr mwy abl, ni waeth o ba gefndir maen nhw'n dod. Heddiw, felly, rwy'n nodi egwyddorion craidd ar gyfer gweithredu a gwella'n barhaus: yn gyntaf, gwell prosesau nodi a chefnogi ar lefel ysgol, ranbarthol a chenedlaethol; yn ail, cyfleoedd a fydd yn ysbrydoli'r lefelau cyflawniad uchaf; ac yn drydydd, datblygu cronfa dystiolaeth gyfoethog i gefnogi buddsoddiad a gwaith pellach.
Ceir enghreifftiau o arfer arloesol yng Nghymru eisoes, ac rwy'n benderfynol o weld y rhain yn cael eu cyflwyno'n ehangach. Mewn gwirionedd, mae hwn yn faes sy'n dioddef oherwydd prinder cymharol o ymchwil ac arferion gorau rhyngwladol o safon uchel. Mae cyfle i Gymru arwain y ffordd drwy weithredu ac ymchwil. Felly, rwy'n neilltuo hyd at £3 miliwn i fod ar gael dros y ddwy flynedd nesaf. Fel cam cyntaf, bydd hyn yn cefnogi dull gweithredu cenedlaethol newydd ar gyfer nodi a chefnogi ein dysgwyr mwy abl. Byddwn yn sefydlu diffiniad newydd, a fydd yn hwyluso proses adnabod y dysgwyr hynny'n gynnar, ynghyd â chanllawiau cynhwysfawr newydd. Bydd camau herio a chefnogi trwy awdurdodau lleol, consortia, rhwydweithiau cenedlaethol o ragoriaeth ac Estyn yn helpu ysgolion i ddatblygu'r gwaith hwn.
Mae parhau i annog diwylliant sy'n cydnabod ac yn cefnogi dyheadau uchel ar gyfer yr holl ddysgwr, athrawon ac ysgolion yn hollbwysig i ddarparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol a hyder y cyhoedd. Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i ni ddarparu profiadau cyfoethog sy'n ehangu gorwelion a chwilfrydedd deallusol pob dysgwr. Mae hyn yn sylfaenol i'n diwygiadau i'r cwricwlwm.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi y bydd rhwydwaith Seren yn cael ei ehangu. Mae eisoes yn gwneud cyfraniad cadarnhaol iawn i godi dyheadau, rhoi hwb i hyder ac annog myfyrwyr ôl-16 i fod yn uchelgeisiol. Gofynnodd y gwerthusiad diweddar i ni ystyried ehangu ei gwmpas, ac rwy'n cytuno â'r argymhelliad hwnnw. Felly, o fis Medi ymlaen, byddwn yn treialu dull o weithredu sy'n ymwneud â dysgwyr iau, cyn TGAU. Drwy weithio ar draws y canolfannau rhanbarthol, bydd yn cysylltu dysgwyr tebyg o wahanol ysgolion a chymunedau, ac yn darparu mynediad at arweinwyr ac arbenigwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau. Bydd ein myfyrwyr disgleiriaf yn elwa ar gyfleoedd dysgu a fydd yn dyfnhau eu sgiliau a'u gwybodaeth, ac mae rhwydwaith Seren mewn sefyllfa dda i rannu a datblygu arfer effeithiol yn hyn o beth. I eraill, yr hyn sy'n allweddol yw ehangu gorwelion a chodi dyhead, helpu pobl ifanc i ddeall i le y gall gwaith caled eu harwain o ran astudiaethau yn y dyfodol a gyrfaoedd wrth fynd ymlaen. Byddwn yn adeiladu ar gysylltiadau presennol y Seren â phrifysgolion blaenllaw byd-eang, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad arall ar eu cyfranogiad yn y dyfodol agos.
Yn olaf, a rhan annatod o egwyddorion system hunan-wella, mae'n rhaid inni annog archwilio ac arloesi. Fel y soniais yn gynharach, trwy ddarparu'r pwyslais hwn, gallwn fod yn arloeswr ym maes addysgeg, a pholisi ac ymchwil yn y maes hwn. Bydd y buddsoddiad rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn cynnwys arian i feithrin gallu i gasglu tystiolaeth o'n dull, i gefnogi ein gwaith datblygu polisi ein hunain ac i gael ein cydnabod yn arloeswr rhyngwladol yn y maes hwn.
I gloi, Dirprwy Lywydd, nid yw'r datganiad heddiw dim ond yn fater o gefnogi ychydig o ddysgwyr a ddewisir. Dim o gwbl. Mae iddo fuddion pellgyrhaeddol i'r system ac yn gymdeithasol. Y dysgwyr hyn, o bob cefndir, a all fod, ac a fydd, y gweision cyhoeddus, yr entrepreneuriaid, yr athrawon a'r gwyddonwyr a fydd yn ysgogi ffyniant a llwyddiant Cymru yn y dyfodol. Mae cael pethau'n iawn ar gyfer y dysgwyr hyn, a'r rhai sydd â'r potensial i fod y dysgwyr hyn, yn golygu gwneud pethau'n iawn i bawb. Mae'n brawf gwirioneddol o'n hegwyddorion o baru tegwch â rhagoriaeth, ac rwy'n credu bod y dull cynhwysfawr a'r buddsoddiad hwn yn sicrhau y gallwn wynebu'r prawf hwnnw â sicrwydd, a chodi safonau a dyheadau i bawb yn ein system. Diolch.
A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad, er, mae'n rhaid i mi ddweud ein bod wedi aros yn hir amdano? Rydym ni wedi gwybod nad ydym wedi bod yn ymestyn ein disgyblion mwyaf abl a thalentog yn ddigonol ers sawl blwyddyn bellach. Mae Estyn wedi cadarnhau hyn, ac mae eraill wedi cadarnhau hyn hefyd—yn benodol, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd—ac rwy'n credu bod y diffyg gweithredu, yn anffodus, wedi gadael rhai pobl ar ei hôl hi. Ond wedi dweud hynny, rwy'n croesawu'r ffaith bod gennym ddatganiad heddiw yn nodi y bydd rhywfaint o fuddsoddiad ychwanegol yn y rhwydwaith Seren.
Yn hollol amlwg, mae gennym ni broblem yma yng Nghymru. Nid ydym ni'n perfformio'n ddigon da ar dablau cynghrair yr OECD. Roedd ein canlyniadau TGAU y llynedd y gwaethaf ers degawd, er gwaethaf y ffaith bod y trefniadau gyda Cymwysterau Cymru ac ati yn ceisio dileu effaith y ffaith eu bod yn gymwysterau TGAU newydd. Gwyddom hefyd fod gennym rai problemau o fewn y rhwydwaith Seren presennol o ran anghysondeb, o ran gwahanol meini prawf cymwysterau o un ganolfan Seren i'r llall, ac yn wir heb fod â mynediad teg yn y canolfannau Seren hynny nac, yn wir, ledled Cymru.
Nodaf y bydd £3 miliwn ar gael gennych dros gyfnod o ddwy flynedd, ond beth am y tu hwnt i'r ddwy flynedd hynny? A fydd hyn yn rhywbeth cynaliadwy? Gwnaethoch chi sôn eich bod yn dymuno gwneud rhywfaint o ymchwil hefyd. Mae'n debygol y bydd yn cymryd mwy na dwy flynedd i allu dilyn ac olrhain yr unigolion hyn drwy'r system addysg, ac os ydych chi'n nodi pobl ifanc cyn TGAU ac yn eu dilyn yr holl ffordd hyd at ddiwedd safon uwch, mae hynny'n gyfnod o bedair blynedd. Felly, sut ar y ddaear mae ymrwymo £3 miliwn dros gyfnod o ddwy flynedd yn ddigon i allu mesur cynnydd yr unigolion hynny? Nid oes gennym ni unrhyw ddata sylfaenol, wrth gwrs, oherwydd y gwir amdani yw nad oes unrhyw blant sy'n rhan o rwydwaith Seren ar hyn o bryd yn cael eu holrhain i weld lle maen nhw'n mynd mewn gwirionedd ar ôl eu hastudiaethau mewn ysgolion. Does dim unrhyw syniad gennym ni faint ohonyn nhw sy'n mynd i'r prifysgolion gorau yn y DU ac, yn wir, dramor. Felly, byddwn i'n ddiolchgar am eglurhad gennych ynghylch o le mae'r ffigur £3 miliwn wedi dod, sut ydych chi wedi gweithio allan ei fod yn ddigonol ar gyfer y rhwydwaith hwn, pam yr ydych chi dim ond wedi ymrwymo i'w ariannu i'r graddau hynny am y ddwy flynedd nesaf, a beth yn union y byddwch chi'n ei fesur o ran y data sylfaenol, er mwyn i ni allu gweld a fu unrhyw welliant er mwyn eich dwyn i gyfrif am hyn.
Yn ogystal â hynny, rydych yn sôn am degwch. Rydym ni'n clywed llawer yn y Siambr hon am barch cydradd rhwng cymwysterau academaidd a galwedigaethol. Beth am roi rhywbeth ar waith ar gyfer pobl ifanc galwedigaethol sy'n cyflawni uchel? Pam na allwn ni gael rhywbeth tebyg i gael y peirianwyr newydd hynny ar brentisiaethau lefel uwch yn ein system addysg bellach? Pam na allwn ni eu holrhain nhw hefyd yn ogystal â'r cyflawnwyr uchel academaidd? Dydw i ddim yn deall pam nad ydych chi'n cyhoeddi unrhyw beth ar eu cyfer nhw, a hoffwn i'n fawr iawn weld beth yr ydych chi'n myn i'w wneud er mwyn eu cefnogi nhw hefyd.
Felly, mae angen dull gwahanol arnom. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn cynnig adnoddau ychwanegol, ond dydw i ddim yn credu bod y datganiad hwn yn ateb llawer o'r cwestiynau sydd gan lawer o bobl am y fframwaith presennol a sut y byddwch chi'n gwneud yn siŵr bod y fframwaith newydd yn gweithio.
A gaf i hefyd ofyn i chi yn gyflym iawn ynghylch meini prawf cymhwysedd? Mae hyn, wrth gwrs, yn broblem fawr gyda'r canolfannau a'r rhwydweithiau Seren presennol. Mae'n wahanol iawn o un i'r llall. A fyddwch chi'n pennu meini prawf cymhwysedd fel bod pobl ifanc yn gwybod o'r cychwyn cyntaf beth yr ydych chi'n disgwyl iddynt ei gyflawni er mwyn cael gafael ar y cymorth gan Seren? Os felly, beth fydd y gefnogaeth honno mewn ystyr ddiriaethol? Ai ysgolion fydd yn cael adnoddau ychwanegol, neu ai pobl fydd yn dod at ei gilydd o bryd i'w gilydd, a'r cyfarfod achlysurol ar gyfer ymarferwyr, neu a fydd rhywfaint o gyllid yn gysylltiedig â'r unigolion hynny yn yr ysgolion hynny i roi cymorth ychwanegol iddynt â'u haddysg? Nid wyf yn credu eich bod wedi dweud digon heddiw, a dweud y gwir, Ysgrifennydd y Cabinet, a hoffwn i, yn sicr, wybod llawer mwy o fanylion.
Os caf i ymdrin â'r pwyntiau y gwnaeth Darren—Darren, fel y gwyddoch chi'n iawn, nid wyf yn fodlon ar berfformiad Cymru ar hyn o bryd yn y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr. Yr hyn y mae archwiliad manwl o'r canlyniadau PISA yn ei ddweud wrthym yw mai un o'r rhesymau nad ydym ni'n gwneud cystal ag yr hoffwn i yw oherwydd nad yw cyrhaeddiad ein disgyblion mwy abl a thalentog yng Nghymru yn cymharu â chyfartaledd yr OECD. Dyna pam y mae angen i ni roi mwy o bwyslais ar yr agenda penodol hwn. Nid wyf yn cuddio o hynny. Dyna un o'r rhesymau pam yr ydym ni'n cyflwyno'r cymorth ychwanegol hwn.
Rydych chi'n gofyn pam nad wyf i'n gallu ymrwymo cyllid am fwy na dwy flynedd. Wel, pe byddai eich Llywodraeth chi yn Llundain yn gallu ymrwymo i adolygiad cynhwysfawr o wariant—ac roedd ansicrwydd ynghylch cyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru—byddwn i wrth fy modd i fod mewn sefyllfa i fod yn fwy sicr. Ond mae'n rhaid imi ddweud, Darren, wrth i Lywodraeth San Steffan dynnu arian allan o'r gyllideb addysg gyffredinol, sy'n adlewyrchu ar ein cyllideb ni yma o ran addysg, mae'n anodd iawn gallu cynllunio mwy na dwy flynedd ymlaen llaw. Ond ni allaf adael i berffaith fod yn elyn i'r da. Gallwn i eistedd yn y fan hyn yn pryderu a dweud, 'Ni allaf fynd y tu hwnt i ddwy flynedd, felly gwnaf i ddim byd', neu 'mae angen mwy o adnoddau arnaf, felly gwnaf i ddim byd', neu gallem ni gymryd cyfrifoldeb am yr agenda hon a dechrau gwneud rhywfaint o gynnydd.
Mae Darren yn iawn i ddweud bod anghysondeb o ran dull Seren. Mae'n dweud nad ydym ni'n gwybod faint o'r disgyblion hynny sydd wedi mynd ymlaen i astudio yn ein prifysgolion gorau. Mae rheswm am hynny, oherwydd y myfyrwyr sy'n sefyll eu harholiadau safon uwch yr haf hwn yw'r garfan gyflawn gyntaf o gymorth Seren. Mae angen i ni, rwy'n cydnabod, wella'r ffordd yr ydym yn olrhain deilliannau Seren, ond bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r gwerthusiad cychwynnol o'r rhaglen a gynhaliwyd sy'n dweud y gwnaed cynnydd anhygoel mewn cyfnod byr o amser. Mae'n dweud, am swm cymharol fach o arian, bod y rhaglen wedi gallu denu llawer iawn mwy o adnoddau gan sefydliadau partner. Byddwn yn ystyried argymhellion y gwerthusiad cychwynnol o Seren wrth inni ddatblygu Seren wrth symud ymlaen. Byddwn i'n disgwyl, o fis Medi yma, gofyniad mynediad mwy cyson at y rhaglen Seren ar draws y rhwydweithiau unigol.
Ond, Darren, bydd yn rhaid i ni bob amser fod â rhywfaint o hyblygrwydd o fewn y system honno. Hyblygrwydd, er enghraifft, ar gyfer argymhelliad gan athro i blentyn sydd efallai yn tanberfformio yn y TGAU am reswm da iawn. Ni ddylai fod gennym reol bendant sy'n dweud, 'Os na chawsoch chi'r graddau hynny ar y pwynt penodol hwnnw, dyna fe, rydych chi allan.' Felly, bydd yn rhaid i ni bob amser fod ag elfen o hyblygrwydd, ar sail argymhelliad athrawon, ar fyfyrwyr unigol, ac wrth gydnabod, os gallwch chi, bod y gallu i wneud yn well os ydych chi'n dod o gefndir mwy difreintiedig. Felly, efallai fod eich A yn cynrychioli taith fwy i chi nag efallai A* i ddisgybl sydd wedi cael yr holl fanteision. Felly, mae'n rhaid inni gael rhywfaint o hyblygrwydd yn y system sy'n cydnabod taith carfanau unigol o ysgolion. Dyna'r unig ffordd deg o gynnal y rhaglen. Ond gallwn gael dull mwy cyson, ac ymagwedd fwy cyson at beth sydd ar gael o fewn y rhaglen.
Ddoe ddiwethaf roeddwn i yn ysgol Y Pant yn Rhondda Cynon Taf, yn siarad â disgyblion y chweched dosbarth sydd wedi bod yn rhan o'r rhaglen Seren. Roedden nhw'n dweud y bu'n amhrisiadwy o ran eu helpu i gydnabod eu bod yn ddigon da, a'u bod yn gallu cystadlu â myfyrwyr ledled gweddill y Deyrnas Unedig, nad oes dim o'i le ar uchelgais i fod yn feddyg a bod â'r freuddwyd honno, a pheidio â meddwl bod yn rhaid iddyn nhw fychanu eu doniau eu hunain, eu bod yn ddigon da. Y mae wedi bod yn gwbl amhrisiadwy iddyn nhw. Siaradais ag un dyn ifanc a ddywedodd ei fod wedi mynd i gyfarfod ag unigolyn, darlithydd hanes, a siaradodd am Rydychen a Chaergrawnt, a sôn am yr hyn yr oedd ei angen i wneud cais llwyddiannus, a dywedais, 'Beth wyt ti'n mynd i'w wneud?', dywedodd, 'Rwy'n gwneud cais. Yn yr hydref, byddaf i'n gwneud cais i fynd i ddarllen hanes yn Rhydychen.' A dyna beth yr ydym ni ei eisiau. Rydym ni eisiau ysbrydoli'r ymdeimlad hwnnw o wybod ein bod yn ddigon da, bod ein plant yn ddigon da, ac mae angen i ni roi'r hyder iddyn nhw ac i beidio â theimlo'n chwithig wrth sefyll a dweud, 'Rwy'n abl iawn yn fy mhynciau.'
Bu hynny'n rhan o'r broblem. Mae gormod o'n plant heb fod â'r hyder hwnnw i sefyll a dweud, 'Rwy'n wirioneddol dda.' Weithiau, ein cerddorion a'r bobl chwaraeon—nhw yw'r arwyr yn yr ysgol. Pryd oedd yr arwr yn yr ysgol yr un sydd wedi rhagori yn Ffiseg neu'r un sydd wedi rhagori'n wirioneddol mewn cyfrifiadureg a rhoesom ganmoliaeth iddyn nhw hefyd? Felly, mae'n rhaid i ni wella fel cenedl a bychanu ein hunain ychydig yn llai, rwy'n credu, a sefyll pan fyddwn yn rhagorol ac yn annog ein plant i sefyll a dweud eu bod yn rhagorol.
Gofynnodd yr Aelod am gymwysterau galwedigaethol. Rwy'n synnu ei fod wedi colli hwn, ond mae gennym raglen eisoes yn y sector addysg bellach. Mae gennym eisoes, drwy weithio ar y cyd â ColegauCymru, raglen newydd yn y sector addysg bellach i gefnogi rhagoriaeth yn ein pynciau galwedigaethol. Byddwn yn noddi, ar y cyd â ColegauCymru yn nes ymlaen eleni, symposiwm a chynhadledd i allu rhannu'r arfer da hwnnw. Felly, mae gennym raglen yn y sector addysg bellach eisoes. Mewn gwirionedd, mae angen i ni ei gyflymu yn ein systemau ysgolion. Felly, mae'n rhaid i ni ystyried annog rhagoriaeth ym mhob agwedd ar ein system addysg. Mae hwn yn faes nad yw wedi derbyn y sylw dyledus, ac os gwnawn ni hyn yn iawn, byddwn yn llwyddo ar gyfer unigolion a byddwn hefyd yn llwyddo ar gyfer ein cenedl.
A gaf innau ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad? Yn sicr, mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael â'r agenda yma. Efallai na fyddai'n taro nodyn cweit mor negyddol â llefarydd y Ceidwadwyr, ond, yn sicr, rwy'n cytuno ag ambell bwynt y mae e wedi'i wneud—un ohonyn nhw, wrth gwrs, yw'r ffaith bod yna adroddiad ar ôl adroddiad wedi amlygu'r gwendid yn y maes yma, ac, o'r diwedd, rŷm ni'n cyrraedd pwynt lle mae yna weithredu mwy penodol.
Mewn perthynas ag addysg bellach, wrth gwrs, rwy'n credu bod y pwynt a oedd yn cael ei wneud yn ddilys. Oes, mae yna raglen yn ei lle, ond rŷm ni'n sôn fan hyn am raglen sydd yn mynd i'r ysgol i hyrwyddo'r cyfleoedd, ac o flaen oed TGAU hefyd, felly, rwy'n meddwl bod yn rhaid inni sicrhau bod y parity of esteem yma yn estyn reit lawr y blynyddoedd o fewn ysgol uwchradd hefyd, ac nid dim ond unwaith y mae rhywun yn cyrraedd addysg bellach ac wedi gwneud y penderfyniadau. Efallai y gallwch chi ymateb ymhellach i hynny wrth ymateb i fi.
Mae'r datganiad yr ydych chi wedi'i roi inni heddiw yn pwysleisio, wrth gwrs, fod angen hwyluso adnabod disgyblion mwy abl a thalentog yn fwy cynnar. Mi allwn i ofyn, 'Wel, pa mor gynnar ŷm ni'n mynd i fynd?', oherwydd po gynharaf, po orau am wn i. Un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ysgolion—mi af i mor bell yn ôl ag ysgolion cynradd fan hyn—yw gwahaniaethu o fewn yr ystafell ddosbarth, yn enwedig mewn ysgolion gwledig lle mae yna nifer bychan o athrawon, efallai, a lle mae gennych chi ddosbarthiadau sydd nid yn unig ag ystod o alluoedd ond ystod o oedrannau, yn mynd, efallai, o wyth i 11 oed. Felly, mae'r mwy abl yn 11 yn yr un amgylchfyd dysgu â'r rhai llai abl, efallai, sydd yn wyth oed. Mae hynny yn ei hun yn cyflwyno her eithriadol i'r gweithlu ac i'r gyfundrefn addysg.
Felly, fy nghwestiwn cyntaf i yw: sut ŷch chi, fel Llywodraeth, yn teimlo y gallwn ni arfogi athrawon yn well gyda'r sgiliau, y technegau a'r strategaethau gwahaniaethu effeithiol yna sydd eu hangen er mwyn cychwyn ar adnabod y sgiliau yma a manteisio ar hynny mor gynnar ag sy'n bosibl, oherwydd mae yn her eithriadol? Nid wyf yn dweud mai rôl uniongyrchol Llywodraeth yw gwneud hynny—yn sicr, mae consortia yn mynd i fod yn ganolog i hynny—ond rwyf eisiau clywed beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i annog a hyrwyddo hyn, hyd yn oed ar y lefel cynradd, os ydym ni am fynd yn ôl i adnabod, annog a manteisio ar gyfleoedd i ddisgyblion mwy abl a thalentog cyn gynted ag sy'n bosibl.
Rydych chi'n cyfeirio hefyd yn eich datganiad at y grant datblygu disgyblion—y pupil development grant.
Mae perygl inni anghofio nad yw'r grant amddifadedd disgyblion yn ymwneud dim ond â chael y plant â'r cyrhaeddiad isaf o gefndiroedd difreintiedig i lefel benodol—mae'n ymwneud â diwallu anghenion yr holl unigolion hynny, rhai ohonyn nhw, wrth gwrs, sy'n fwy abl a thalentog. Rwy'n credu bod Estyn wedi dweud mai ychydig iawn o ysgolion sy'n defnyddio'r grant amddifadedd disgyblion i dargedu disgyblion mwy abl a thalentog mewn gwirionedd. Yn wir, mae dadansoddiad o effaith o gronfa ddata genedlaethol y disgyblion yn dangos bod y bwlch rhwng y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'r disgyblion nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim sy'n cyrraedd y graddau uchaf o A* neu A yn parhau i fod yn fawr—yn wir, nid yw wedi newid yn ystod y pum mlynedd diwethaf—er gwaethaf, wrth gwrs, y bwlch cyrhaeddiad cyffredinol yn cau yng nghyfnod allweddol 4.
Felly, rwy'n credu'r pwynt rwy'n ei wneud yma, mewn gwirionedd, yw bod mwy y gallwn ni ei wneud gyda'r rhaglenni a'r mentrau presennol i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd ar gyfer plant mwy abl a thalentog, heb sôn wedyn am gychwyn, fel sy'n gywir, ar fentrau newydd eraill. Tybed beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod y grant amddifadedd disgyblion mewn gwirionedd yn cael ei ddefnyddio yn fwy effeithiol yn hynny o beth nag a wneir ar hyn o bryd yn amlwg, yn ôl tystiolaeth Estyn.
Yn olaf gen i, rydych chi'n dweud wrthym y bydd dull yn cael ei dreialu o fis Medi ymlaen sy'n cynnwys dysgwyr iau cyn TGAU. Hyderaf y bydd hynny'n profi'n arbennig ddulliau sy'n ymwneud â darpariaeth mewn ardaloedd gwledig yr ydych rwy'n siŵr—mi wn—y byddwch yn angerddol yn ei chylch, ond hefyd y cymorth sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, oherwydd amlygwyd y meysydd hyn yn y gwerthusiadau unigol yn flaenorol, ac maen nhw'n sicr yn rhai y byddwn i'n gobeithio ac yn hyderu y byddai'r Llywodraeth yn dymuno sicrhau y cânt eu bodloni'n gadarn.
A gaf i ddiolch i Llyr am ei gwestiynau? A gaf i ddechrau drwy ddychwelyd at y pwynt am addysg bellach? Rwyf wedi ymrwymo i ddiwallu anghenion dysgwyr mwy abl a thalentog yn y sector addysg bellach yn ogystal ag yn y sector ysgolion. Am y tro cyntaf erioed, rydym wedi llunio canllawiau wedi'u teilwra i anghenion dysgwyr addysg bellach. Nid yw'r canllawiau hyn dim ond i'r rhai hynny â gallu yn y pynciau academaidd mwy traddodiadol sydd o bosibl yn gwneud safon uwch, er enghraifft, mewn coleg addysg bellach, ond hefyd i'r rhai hynny â sgiliau galwedigaethol ac ymarferol neilltuol. Bwriad ein canllawiau yw adlewyrchu ethos cynhwysol ac amrywiol y sector addysg bellach. Nid yw wedi'i wneud erioed o'r blaen, rydym ni wedi'i wneud, mae ar gael yn y sector a, dros y flwyddyn nesaf, mewn partneriaeth â ColegauCymru, byddwn yn parhau i wneud mwy i gryfhau'r cymorth yn y sector addysg bellach ar gyfer dysgwyr mwy abl a thalentog gan gynnwys, fel y dywedais wrth Darren Millar, ariannu rhaglen datblygiad proffesiynol ar gyfer ymarferwyr yn y sector addysg bellach. Ac rydym ni hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â nhw i gynnal cynhadledd a fydd yn darparu'r cyfle i golegau arddangos a dysgu oddi wrth ei gilydd am sut maen nhw'n cefnogi dysgwyr mwy abl a thalentog i lwyddo.
Felly, mae hwn yn torri tir newydd yn y sector addysg bellach. Rydym ni eisoes wedi llunio'r canllawiau hynny yn y sector hwnnw, ac rydym ni bellach yn edrych ar beth y gallwn ni ei wneud yn yr ysgolion, oherwydd, Llyr, gwnaethoch chi sôn am y mater o nodi. Un o'r problemau sydd gennym yw bod disgyblion mwy abl a thalentog mewn un ysgol yn wahanol i rai mewn ysgol arall, felly mae angen inni gael diffiniad cyffredin o'r garfan yr ydym ni'n sôn amdani, ac mae angen arweiniad newydd arnom gan Lywodraeth Cymru i'r sector addysg ar beth sy'n digwydd wedyn.
Ym mhob ysgol, mewn gwirionedd, byddem yn disgwyl cofrestru plentyn sy'n fwy abl a thalentog, ond ar hyn o bryd, mewn rhai achosion—nid pob un, oherwydd bod gennym rai ymarferwyr rhagorol—ond mewn rhai achosion dyna ddiwedd y broses: caiff plentyn ei nodi, rhoddir tic mewn blwch ac yna nid oes dim yn digwydd ar ôl y broses benodol honno, ac nid yw hynny'n ddigon da. Bydd ein diffiniad newydd, ein system nodi newydd a'n canllawiau newydd ar gyfer ysgolion yn pwysleisio hynny, a chaiff ei atgyfnerthu gan awdurdodau addysg lleol, gan gynghorwyr her consortia rhanbarthol a gan Estyn. Ni fydd gwneud dim mwy na rhoi tic yn y blwch a nodi'r plentyn yn ddigon; mae angen eu cefnogi wedyn.
A Llyr, rydych chi yn llygad eich lle: mae hynny wedyn yn ymwneud ag ymagweddau addysgeg yn yr ystafell ddosbarth a, heb os, mae cyflawni hynny mewn ysgol wledig fach iawn yn her, ond mae'n rhaid i ni wynebu'r her honno oherwydd y dewis arall yw cau'r ysgolion hynny. Dyna'r dewis arall, ac nid wyf i eisiau gwneud hynny, a dyna pam na allwn ni weld y rhaglen hon ar ei phen ei hun. Rydych chi'n hollol iawn i ddweud er bod pot ar wahân o arian ar gyfer y cynllun arbennig hwn yr wyf yn ei gyhoeddi i chi heddiw, ni all fod ar wahân i adnoddau sydd eisoes ar waith yn ein hysgolion, boed y grant datblygu disgyblion neu'r grant ysgolion gwledig a bach, sy'n benodol i ymdrin â rhai o'r heriau hyn o ran addysgu mewn ardal wledig. Felly, ni allwn wneud hyn ar ei ben ei hun. Mae'n cyfuno â meini prawf y grant ysgolion gwledig a bach, sef ceisio mynd i'r afael â rhai o'r heriau ymarferol iawn hyn i athrawon heb fod angen dweud, 'Wel, ni ellir ei wneud. Yr unig ateb yw anfon ein plant mewn ardaloedd gwledig i ysgolion mwy o faint'—rhywbeth nad wyf i'n dymuno'i wneud a gwn nad ydych chi'n dymuno'i wneud ychwaith. Felly, ni all ddigwydd ar wahân.
Y grant datblygu disgyblion: mae'n rhaid i ni barhau â'n penderfyniad i sicrhau bod yr arian hwnnw—£91 miliwn yn y flwyddyn ariannol newydd—bod y £91 miliwn hwnnw yn cyrraedd y plant hynny sydd ei angen. Ac rydych chi'n iawn: mae rhai o'n plant mwy abl a thalentog yn blant sydd â hawl i brydau ysgol am ddim hefyd. Ac weithiau, a hynny yn ôl tystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor, mae'r grant amddifadedd disgyblion yn mynd tuag at y plant llai abl hynny, ond yr her i ni wrth weithio gydag ysgolion, consortia rhanbarthol ac awdurdodau addysg lleol yw sicrhau bod y grant amddifadedd disgyblion yn cael ei ddefnyddio yn yr ystyr lawnaf bosibl.
Mae angen inni barhau i ysgogi dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn ein hysgolion. Rydym yn gwybod beth sy'n gweithio. Mae Ymddiriedolaeth Sutton wedi ymchwilio'n sylweddol i ba ymyraethau sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf ar gyfer y plant hyn, ac mae'n rhaid i ni barhau â'r ymgyrch, drwy ein consortia rhanbarthol, os na fydd ysgol yn dilyn pecyn cymorth Ymddiriedolaeth Sutton, os nad yw'r ysgol yn defnyddio dulliau gweithredu y profwyd eu bod yn gweithio a thystiolaeth, mae'n rhaid bod rheswm da iawn pam nad yw hynny'n wir, a dylai'r ysgolion hynny eu hunain fod yn cynnal eu prosiect ymchwil gweithredu eu hunain yn eu hysgolion i ddangos bod eu dull nhw yn gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd.
Ond yr hyn sy'n gwbl glir i mi yw nad yw unrhyw oedran yn rhy ifanc i ddechrau. Mae angen inni nodi'r plant hyn mor gynnar â phosibl yn eu gyrfaoedd addysgol, ond cydnabod hefyd, i rai plant, y gallai'r doniau hynny ddod i'r amlwg yn ddiweddarach yn eu haddysg. Ac felly, ni ddylem ddweud, 'Iawn, os nad ydych chi'n cyrraedd y targed pan fyddwch yn bum mlwydd oed, dyna fe.' Nid ydym yn dymuno bod yn y sefyllfa honno. Mae angen inni gydnabod bod plant yn cyrraedd eu cerrig milltir mewn ffyrdd gwahanol, a gallai'r dalent honno ddod yn fwy amlwg mewn ffurfiau gwahanol. Ni ddylai fod gennym system sydd mor anhyblyg fel na allwn roi ystyriaeth i'r ffaith bod pob un o'n plant yn wahanol iawn ac mae eu taith addysgol yn wahanol.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym ni yn UKIP Cymru yn croesawu eich cyhoeddiad o £3 miliwn i gefnogi disgyblion disgleiriaf a mwyaf talentog Cymru. Mae'n bwysig meithrin talent a nodi pwy yw ein disgyblion disgleiriaf ar y cam cynharaf posibl. Felly, oherwydd bod angen gwneud hyn yn gynharach nag ar lefel y chweched dosbarth, mae'n fenter dda i rwydwaith Seren ddechrau targedu dysgwyr iau.
Hefyd, hoffwn i ofyn pa mor gynaliadwy y bydd y £3 miliwn yn eich barn chi i gyrraedd eich targed. Pa mor gynhyrchiol fydd hi yn y system addysgol? Ydych chi hefyd yn credu—rwyf i'n credu—efallai na fyddai'r fenter hon wedi bod yn angenrheidiol pe bai gennym ni ysgolion sy'n darparu ar gyfer doniau a galluoedd unigol pawb, a phe bai gennym ni ysgolion gramadeg, ysgolion uwchradd a cholegau technegol i ddisgyblion ar oedran eithaf ifanc?
Rwy'n falch eich bod wedi sôn am Ysgol Y Pant, oherwydd roedd Ysgol Y Pant yn ysgol rhwng yr ysgol ramadeg a'r ysgol uwchradd flynyddoedd lawer yn ôl. Felly, byddai disgyblion, pe baent yn mynd i'r ysgol uwchradd yn 11 oed, yn cael cyfle yn 12 oed pan nodwyd eu talent, i sicrhau lle yn Ysgol Y Pant neu fynd i'r ysgol ramadeg. Felly, ni chafodd neb eu colli, mewn gwirionedd. Roeddwn i'n meddwl bod honno'n system eithaf da ac roedd Ysgol Y Pant yn ysgol dda iawn i ddatblygu cryfderau a galluoedd y disgyblion, oherwydd nid yw polisi un dull i bawb yn gweithio ac mae'n rhaid inni gydnabod hynny.
Mae'n dda cyhoeddi'r arian ychwanegol hwn a fydd wedi'i dargedu'n benodol ar gyfer disgyblion sydd wedi'u clustnodi'n gynnar i fynd i brifysgol arweiniol. Ond beth ydym ni'n ei wneud i gefnogi ein plant nad ydynt yn academaidd yn yr ystyr draddodiadol, ond sydd yr un mor ddawnus? Beth ydym ni'n ei wneud i gefnogi plant sydd ag uchelgais i wneud prentisiaeth a dysgu crefft? Rwy'n sôn am blant cyn TGAU. Nid yw disgyblion disgleiriaf a mwyaf dawnus Cymru, fel yr ydych chi'n eu disgrifio, yn rhai academaidd yn unig, nhw yw'r rhai sy'n gweithio'n galed ar yr hyn maen nhw'n dda yn ei wneud, sy'n rhagori mewn addysg gorfforol, celf neu ddylunio. Felly, nid yw talent o reidrwydd yn cyfateb i allu academaidd. Hoffwn i wybod beth yr ydych chi'n bwriadu ei wneud ar gyfer y disgyblion hyn.
Un maes a all helpu'r rhai mwyaf dawnus yn academaidd mewn pynciau traddodiadol yw papurau arholiad chweched tymor a phapurau arbennig. Ystyrir y papurau hyn yn bethau cadarnhaol ar gyfer cael eich derbyn mewn rhai pynciau ym mhrifysgolion Grŵp Russell, fel Caergrawnt a Warwick. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi amlinellu pa welliannau y mae Llywodraeth Cymru a'r rhwydwaith Seren yn eu gwneud i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu paratoi yn y ffordd orau os byddan nhw'n penderfynu sefyll arholiadau o'r fath? Diolch.
A gaf i ddiolch i Caroline am ei chwestiynau? Mae'r gwerthusiad cyntaf yr ydym wedi'i gael o rwydwaith Seren yn argymell y dylem ni ystyried cyflwyno Seren yn gynharach yng ngyrfa ysgol plentyn ac rwy'n credu bod manteision gwirioneddol a bod y rhwydwaith mewn sefyllfa dda i wneud hynny. Er enghraifft, wrth ddewis pynciau TGAU, gall hynny gael effaith sylweddol ar allu myfyriwr i barhau i astudio pethau nes ymlaen, felly os nad ydym yn rhoi'r cyngor cywir ar ddiwedd blwyddyn 9, gall myfyriwr, yn ddiarwybod, gau llwybrau penodol iddyn nhw eu hunain. Felly, mewn gwirionedd, bydd cael y cymorth hwnnw yn gynharach, yn fy marn i, yn fuddiol, felly byddwn yn ei dreialu. Rydym ni eisiau cerdded cyn rhedeg. Rydym yn dal i ddatblygu ein rhaglen rhwydwaith Seren ar gyfer dysgwyr ôl-16, ond rwyf yn credu nad oes angen inni aros i berffeithio hynny cyn y gallwn ddysgu'r egwyddorion a'u cymhwyso'n gynharach yn yr ysgol.
Caroline, nid wyf am ailadrodd eto heddiw pam rwy'n gwrthod yn llwyr dethol disgyblion yn 11 oed. Rwy'n ei wrthod. Mae'r Llywodraeth hon yn ei wrthod. Mae'r holl dystiolaeth—rwyf newydd ddyfynnu'r Ymddiriedolaeth Sutton—wyddoch chi, mae ymchwilwyr annibynnol fel hynny yn dweud wrthym nad yw dethol yn ffordd o allu hybu tegwch a rhagoriaeth i'r holl fyfyrwyr, felly nid wyf yn mynd i drafod hynny oherwydd ni fyddaf i byth wedi argyhoeddi o'r dadleuon hynny gan nad yw'r dystiolaeth ar gael i'w chefnogi.
Fodd bynnag, rydych yn llygad eich lle bod angen inni fod yn agored iawn â myfyrwyr am amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael. Byddwch yn ymwybodol o fy llythyr cylch gwaith i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, lle'r ydym yn gweithio gyda CCAUC ac addysg bellach i ddatblygu prentisiaethau ar sail gradd. Gwnes i gyfarfod â dyn ifanc ddoe yn Y Pant. Rwy'n credu ei fod ym mlwyddyn 8, ac roedd e wedi bod i Brifysgol De Cymru ac wedi gweld gweithgareddau ym Mhrifysgol De Cymru, a dywedais, 'Beth ydych chi'n meddwl?' a dywedodd, 'Wel, rwy'n credu efallai fydda i'n mynd i'r brifysgol nawr, ond 'dwi ddim yn gwybod achos efallai fydda i'n gwneud prentisiaeth.' A dywedais i, 'Mewn gwirionedd, erbyn i chi gyrraedd yno, ni fyddwn yn gwneud i chi ddewis, achos byddwch chi'n gallu gwneud y ddau. Byddwch chi'n gallu ennill prentisiaeth lefel uchel hynod ymarferol, a byddwch yn gwneud hynny mewn athrofa addysg uwch, wrth inni ddatblygu ein prentisiaethau lefel gradd. Ni fydd yn rhaid i chi ddewis.' Rwy'n credu mai dyna beth y mae angen inni ei wneud, ac rydym yn ariannu ac yn gweithio gyda CCAUC i ddatblygu'r rhaglenni hynny ar y cyd â'r sector addysg bellach.
Rydych chi'n hollol iawn: mae angen inni sicrhau bod y plant hynny sy'n gobeithio mynd i rai o'n prifysgolion ond yn enwedig y rhai sy'n gobeithio gwneud cyrsiau penodol, yn arbennig ym maes meddygaeth, yn cael cyngor ar ba fath o arholiadau a pha fath o brofion gallu y mae angen iddyn nhw eu sefyll ochr yn ochr â'u cymwysterau safon uwch. Mae hynny'n rhan o waith rhwydwaith Seren. Mae ganddo ffrydiau penodol i bobl sy'n bwriadu, er enghraifft, mynd i faes meddygaeth neu'r gwyddorau milfeddygol, ac maen nhw'n cael cyngor penodol iawn ar yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud ochr yn ochr â'u cymwysterau safon uwch i roi cyfle iddyn nhw o gael y lleoedd hynny. Gwaith y rhwydwaith yw hynny. A dyna'r gwahaniaeth rwy'n clywed y mae Seren yn ei wneud. Dywedodd athro wrthyf i ddoe, 'Mae Seren yn caniatáu inni roi i'n plant yr hyn yr oedd y bobl hynny a aeth i ysgolion preifat yn ei gael erioed, yr hwb ychwanegol hwnnw, y cyngor mewnol hwnnw, y cymorth hwnnw i sicrhau bod y ceisiadau hynny yn geisiadau llwyddiannus', ac rydym ni'n gwneud hynny erbyn hyn ar gyfer ein holl blant.
Diolch. Yn olaf, Mark Reckless.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, mae diddordeb arbennig gen i yn y rhwydwaith Seren i gefnogi dysgwyr abl a thalentog i fynd i'r brifysgol, fel y byddwch yn ymwybodol o bosibl o nifer fy nghwestiynau ysgrifenedig ar y—[Torri ar draws.] Diolch.
Yn gyntaf, hoffwn i ofyn a ydych chi wedi cynnal unrhyw asesiad o'r gwersylloedd haf y mae rhai o'r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn eu cynnig, gan gynnwys eu heffeithiolrwydd o ran cost. Er enghraifft, rwy'n nodi bod gwersyll Yale yn costio £2,000 i bob disgybl, ac mae hynny'n dod o gyllideb bresennol Seren. Yn ail, yn ôl trafodaethau rwyf wedi'u cael â'r sector, gan gynnwys swyddogion derbyn allweddol, ceir pryder bod rhai ysgolion yn betrus wrth wneud yr ymdrech angenrheidiol i ymgysylltu â rhwydwaith Seren fel pe baent yn ofni y bydd eu sgôr Estyn yn dioddef pe byddai amser athrawon yn cael ei gymryd o feysydd eraill sy'n cael eu graddio gan Estyn. A fyddai'n bosibl yn rhan o'ch ymrwymiad i ehangu a chryfhau rhwydwaith Seren i arolygiadau Estyn roi ystyriaeth i ymgysylltu â rhwydwaith Seren a'i amcanion?
Yn olaf, a oes modd i rwydwaith Seren wneud mwy i hyfforddi a gwella athrawon i gefnogi disgyblion i gael lle mewn prifysgolion elît? Er bod rhai gweithdai ar gael i athrawon eisoes, rwyf i wedi clywed bod—neu o leiaf mewn rhai ohonynt—presenoldeb wedi bod yn isel, ac nid yw Seren wedi gallu talu costau presenoldeb athrawon, yn enwedig y costau cyflenwi. Os oes modd i ni roi rhywfaint o'r dystiolaeth y mae Ymddiriedolaeth Sutton wedi dod o hyd iddi i'r bobl, rwy'n credu y byddai hynny'n arbennig o werthfawr. Os ydym ni, fel yr ydych chi'n ei ddweud, i fod yn arweinwyr y byd o ran addysgeg, a ydych chi'n cytuno bod hwn yn fater y mae angen rhoi sylw iddo a'i ddatrys?
Diolch ichi, Mark. Ac rwyf i wir yn croesawu—ac rwy'n dweud hyn yn gwbl ddidwyll—eich diddordeb yn y rhaglen hon. Gwn fod hwn yn faes arbennig yr ydych chi'n awyddus i'w weld yn datblygu ac yn gweithio'n dda i fyfyrwyr Cymru, ac rwy'n croesawu'r craffu ychwanegol, sy'n fy nghadw ar flaenau fy nhraed i wneud yn siŵr y gallaf ateb eich cwestiynau.
Rydym yn edrych ar effeithiolrwydd yr holl ymyraethau, ac, wrth i ni ymateb i'r gwerthusiad cychwynnol o Seren, byddwn mewn gwirionedd yn gofyn y cwestiwn: pa weithgareddau sy'n arwain at yr enillion mwyaf? Mae Mark yn rhoi enghraifft ysgol haf Yale. Wel, yn bersonol, rwyf i wrth fy modd, yr haf hwn, y bydd nifer o fyfyrwyr Cymru yn cael cyfle i fynd i ysgol haf Yale. Am gyfle anhygoel ydyw i'r bobl ifanc hynny—am beth anhygoel i'w hysbrydoli, i allu ei ysgrifennu ar eu ffurflenni cais a'u CVs mewn blynyddoedd i ddod—ond bydd angen i ni ddeall pa un a yw hynny'n ymyrraeth effeithiol ac yn ddefnydd effeithiol o'r arian hwnnw. Ond rwy'n dymuno rhoi gwybod i fyfyrwyr Cymru am y rhai gorau, boed hynny yng Nghymru, boed hynny yn Rhydychen neu Gaergrawnt, neu boed hynny ledled y byd. Ac rwyf wrth fy modd—rwy'n eiddigeddus iawn; byddwn i'n dwlu ar fynd i ysgol haf Yale yr haf hwn.
Rydych chi'n iawn ynghylch Estyn a'r rhan hollbwysig sydd gan Estyn a sut y mae Estyn yn dylanwadu ar ymddygiad yn ein system ysgolion. Rwyf yn ymwybodol iawn—ymwybodol iawn—y gallaf ddweud rhywbeth yn y Siambr hon, ond, os yw ysgolion yn credu y bydd Estyn yn eu marcio i lawr, byddan nhw'n ei anwybyddu a byddan nhw'n gwneud yr hyn y maen nhw'n meddwl y bydd Estyn yn ei wneud yn ofynnol iddyn nhw ei wneud. Felly, mae angen dull cydgysylltiedig arnom gan Estyn a'r consortia rhanbarthol, sydd, wrth gwrs, yn rhan o'r gwerthusiad sy'n pennu'r model categoreiddio ysgolion, er mwyn i ni gyd weithio yn unol â'n gilydd ac i ni fod yn glir, mewn gwirionedd, na ddylid ystyried bod amser athrawon a gaiff ei dreulio ar hyn yn niweidiol i rywbeth arall sy'n digwydd yn yr ysgol. Mae'r drefn arolygu, wrth gwrs, yn fater iddyn nhw yn annibynnol ar y Llywodraeth, ond byddaf i'n sicr o'i godi pan fyddaf i'n cyfarfod a'r Prif Arolygydd nesaf, un o fy nghyfarfodydd rheolaidd, oherwydd fy mod i'n ymwybodol bod yr hyn y mae Estyn yn ei wneud, yn wir, yn ysgogi ymddygiad mewn ysgolion unigol.
Mae swyddogaeth athrawon yn gwbl hanfodol drwy fod yn eiriolwyr realistig ar gyfer eu myfyrwyr, ac, felly, mae angen iddyn nhw eu hunain fod â'r cymwysterau, ac un o'r pethau yr ydym ni'n ei wybod: pan fo gan athrawon lai o brofiad o'r prosesau gwneud cais i Rydychen neu Gaergrawnt neu i rai o'n prifysgolion gorau, nid ydym yn gweld plant yn gwneud y datblygiad hwnnw. Felly, mae hyfforddi athrawon a rhoi'r wybodaeth iddyn nhw yn gwbl hanfodol ac rwy'n addo, wrth inni edrych ar ein canllawiau a datblygiad y rhwydwaith Seren, byddwn yn sicrhau ein bod yn chwalu unrhyw rwystrau sy'n atal athrawon rhag cymryd rhan lawn yn y cyfleoedd sydd ar gael, oherwydd eu bod yn hollbwysig i gefnogi'r plentyn hwnnw drwy'r broses honno a'u helpu i wneud penderfyniadau ac mae angen yr hyder arnyn nhw eu hunain eu bod yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud, eu bod yn gwybod beth sy'n gweithio.
Fel y dywedais, mae'n syndod braidd, wrth edrych ar ymchwil rhyngwladol, nad oes llawer ohono yn ymwneud ag addysgeg mwy abl a thalentog ac rwy'n credu bod hyn yn rhoi cyfle gwirioneddol i Gymru arwain y ffordd a datblygu ein sgiliau a'n harbenigedd yn y maes hwn mewn gwirionedd, lle ceir cyfuniad o gamau gweithredu yn ein hysgolion, ond ategir hynny hefyd gan ymchwil fel y gallwn fod yn arweinwyr ar gyfer llenwi'r bwlch hwnnw sydd i'w weld ar hyn o bryd o ran ymchwil dwys iawn yn y maes hwn i'r hyn sy'n gweithio.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.