Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 27 Chwefror 2018.
Mae arnaf ofn, wrth ddod i'r ddadl braidd yn hwyr, fod llawer o'r pwyntiau yr hoffwn i eu gwneud eisoes wedi'u gwneud, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n diolch i chi, yn amlwg, am eich datganiad, a maddeuwch i mi os gwelwch yn dda os byddaf yn ailadrodd rhai o'r pwyntiau sydd eisoes wedi'u gwneud heno.
Gall mesur unrhyw raglen fod yn heriol. Rydym ni'n gweld gyda llawer o gynlluniau fod y pwyslais, yn aml, ar weithgareddau sy'n ymwneud â'u gweithredu, yn hytrach na'u canlyniadau. Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei roi ar waith i fonitro effeithiolrwydd eich rhaglen teithio llesol?
Nodwyd bod y cyllid wedi'i bennu yn £5 y pen o'r boblogaeth. Rydym ni eisoes wedi sôn am arian, ond awgrymwyd ei fod, mwy na thebyg, yn nes at £3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar ffigurau sy'n fwy cyfredol na hynny? Gwnaethoch chi sôn am ffigur yr Alban, ond gwnaethoch chi ddim mewn gwirionedd roi'r ffigur hwnnw i ni, felly a wnewch chi wneud hynny hefyd?
Mae'r Ddeddf teithio llesol yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran camau gweithredu i hyrwyddo cerdded a beicio, ac mae wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol am hynny. Fodd bynnag, mae gweld y rhesi o fysiau a cheir y tu allan i ysgolion, yn aml yn teithio pellteroedd eithaf byr, yn dangos pa mor ddwfn yw'r broblem o ran gweithredu newid moddol yn agweddau pobl. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu â mi y gred y dylai fod ymdrech ar y cyd mewn ysgolion i argyhoeddi ein pobl ifanc i fynd ar feic a cherdded i'r ysgol?
Y pwynt olaf yr hoffwn i ei godi gydag Ysgrifennydd y Cabinet yw'r diffyg uchelgais ymddangosiadol gan awdurdodau lleol o ran eu mapiau teithio integredig. Nodwyd hyn gan ffynhonnell mor awdurdodol â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei hun, hyd yn oed, sy'n credu bod hyn oherwydd ofnau awdurdodau lleol am ddiffyg cyllid y maent yn ei ragweld ar gyfer y seilwaith teithio llesol. A all Ysgrifennydd y Cabinet wneud sylwadau ynghylch hyn? Diolch.