Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 27 Chwefror 2018.
A gaf i ddiolch i David Rowlands am ei gwestiynau a chyffwrdd ar bwynt y dylwn fod wedi ymdrin ag ef pan gafodd ei godi gan Jenny Rathbone, sy'n ymwneud â'r cyllid sydd ar gael ar gyfer cynlluniau sy'n cael eu datblygu? Mae'r £5 miliwn hwnnw y soniais i amdano yn gynharach yn cael ei neilltuo at ddibenion dwyn cynlluniau i'r cam adeiladu. Y rheswm fy mod am weld cynnydd sylweddol yn yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer y prosiectau hynny yw oherwydd bod gwerth £5 miliwn o gyllid yn debygol o arwain at nifer sylweddol o brosiectau y bydd angen adnoddau cyfalaf arnynt. Os ydym ni i sicrhau, os mynnwch chi, nad yw'r weledigaeth yn aros yn ddim ond breuddwyd, ond bod y gweithredu yn troi'n realiti, mae'n rhaid i ni ei chefnogi ag adnoddau sylweddol. Dyna pam yr wyf yn pwysleisio'r pwynt y byddaf yn chwilio am gynnydd sylweddol ym maint y buddsoddiad cyfalaf sy'n mynd i deithio llesol.
Cododd yr Aelod y ffigur o £16 y pen yn yr Alban. Y cyfanswm sy'n cael ei wario yn yr Alban—mae wedi cynyddu'n sylweddol yn ddiweddar—yw £80 miliwn. Yma yng Nghymru, roeddwn yn falch o allu neilltuo £8 miliwn ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol ar gyfer teithio llesol, a arweiniodd at ffigur, o fewn fy adran fy hun, o £23 miliwn. Mae hynny'n cyfateb i fwy na £7 y pen o'r boblogaeth yng Nghymru, ond nid yw'n adlewyrchu peth o'r gwariant ychwanegol sydd wedi mynd i gynlluniau sydd wedi annog newid moddol. Mae'n llawer mwy anodd i allu nodi yr holl wariant, yr holl fuddsoddiad, pan nad oes gennych chi un gyllideb teithio llesol. Serch hynny, hoffwn i weld, yn fy adran i, gynnydd sylweddol yn y cyfalaf sydd ar gael ar gyfer cynlluniau sy'n gallu cael eu darparu yn y dyfodol.
Rwy'n credu bod yr amrywiad yn ansawdd y cyflwyniadau gan awdurdodau lleol yn dangos nad adnoddau ariannol oedd yr her i gynghorau ledled Cymru, yn bennaf, ond yn hytrach, yr her oedd eu parodrwydd a'u cred yn yr agenda hon—parodrwydd i weithio'n galed i ddarparu mapiau rhwydwaith integredig rhagorol ac i gyfrannu at yr agenda hon yn ystyrlon, yn aml gydag adnoddau ariannol. Ceir cynghorau rhagorol yng Nghymru yn hyn o beth, a hoffwn weld pob cyngor yn perfformio'n eithriadol o dda yn y blynyddoedd i ddod.
Am y rheswm hwnnw, rydym yn monitro cynnydd y tri awdurdod lleol hynny yr ydym wedi cymeradwyo eu mapiau rhwydwaith. Rydym ni'n mynd i fod yn monitro gweithrediad yr argymhellion y gofynnodd Jenny Rathbone amdanyn nhw, ac rydym ni'n mynd i fod yn monitro cyflwyniad prosiectau a rhaglenni ar draws pob un o'r 22 o awdurdodau lleol. Cam cyntaf yw hwn. Caiff rhagor o fapiau eu cyflwyno ymhen tair blynedd. Byddwn yn cynnal asesiadau o ran data a'r nifer sy'n manteisio ar y llwybrau hynny a nodir ar y mapiau. Byddwn yn asesu eu heffeithiolrwydd. Byddwn yn edrych ar y prosiectau sy'n cael eu darparu yn rhan o'r ymarfer mapio, ac yn gweithio i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda phartneriaid yn Sustrans ac ar draws llywodraeth leol a sefydliadau eraill y trydydd sector i gynyddu’r arlwy o ran teithio llesol.
Rwy'n credu, unwaith eto, i'r Aelod dynnu sylw at swyddogaeth addysg yn hyn o beth. Os gallwn ni newid ymddygiad plant, byddwn ni hefyd, yn ôl pob tebyg, yn newid ymddygiad eu rhieni, fel a ddigwyddodd gydag ailgylchu. Mae'r cynnydd yn y cyfraddau ailgylchu yn bennaf wedi bod o ganlyniad i bobl ifanc yn ysgogi'r agenda hon, yn dylanwadu ar eu rhieni a'r cenedlaethau hŷn ac yn eu hysbrydoli.
O ran ansawdd aer, a godwyd, unwaith eto, gan Jenny Rathbone, rwy'n gwybod bod Aelodau o gwmpas y Siambr hon yn bryderus iawn ynghylch y broblem hon. Mae hwn yn fater y mae'r Gweinidog dros yr Amgylchedd, fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, yn ei arwain, ond mae gennym grŵp gorchwyl gweinidogol sy'n cwrdd yn rheolaidd i drafod datgarboneiddio, ac mae ansawdd aer wrth gwrs yn bryder allweddol sydd gennym yn y grŵp hwnnw.