– Senedd Cymru am 7:07 pm ar 27 Chwefror 2018.
Yr eitem nesaf, felly, ar ein hagenda ni yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Mesur Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau). Rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig—Vaughan Gething.
Cynnig NDM6662 Vaughan Gething
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Rwy'n hapus i gynnig y cynnig ger ein bron heddiw ar y Memorandwm, y cynnig am gydsyniad deddfwriaethol, sy'n ymwneud â'r Bil Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau).
Rwy'n teimlo bod llawer ohonom ni wedi ein synnu'n rheolaidd gan adroddiadau o ymosodiadau llafar a chorfforol ar weithwyr brys tra eu bod yn cyflawni eu swyddogaethau sydd eisoes yn drwm ac sydd mor werthfawr i bob un o'n cymunedau ledled Cymru.
Mae Chris Bryant, yr Aelod Seneddol dros y Rhondda, wedi cyflwyno ei Fil aelodau preifat i ddarparu diogelwch ychwanegol i'r gweithwyr brys hynny. Cyflwynwyd y Bil hwnnw ar 19 Gorffennaf 2017 ac mae iddo gefnogaeth drawsbleidiol. Yn ddiddorol, wrth gyflwyno ei Fil mae ef wedi cynnal ymgynghoriad ehangach i annog aelodau'r cyhoedd i bleidleisio dros y dewisiadau posibl os dewiswyd ef yn y bleidlais. Ymatebodd dros 10,700 o bobl yn uniongyrchol. O ran ymgynghoriad y DU a hefyd ymgynghoriad lleol iawn y Rhondda, daeth y Bil penodol hwn i'r brig fel y cynnig i fwrw ymlaen ag ef. Cafodd hefyd gefnogaeth gan fwy na 145,000 o ddeisebwyr ar-lein. Felly, mae cefnogaeth eang i'r Bil, ac rwy'n sicr yn gobeithio y bydd yn cael cefnogaeth gan yr holl bleidiau yn y Siambr heddiw.
Mae'r Bil fel y'i drafftiwyd yn ymestyn ac yn berthnasol i Gymru a Lloegr, a byddai'n cryfhau'r gyfraith drwy greu fersiwn newydd o'r drosedd waethygedig bresennol ar gyfer ymosodiad cyffredin neu guro pan gyflawnir hynny yn erbyn gweithiwr brys. Byddai uchafswm y gosb yn cynyddu felly o chwech i 12 mis o garchar. Byddai hefyd yn creu ffactor gwaethygedig statudol ar gyfer ymosodiadau eraill a throseddau cysylltiedig yn erbyn gweithwyr brys, fel gwir niwed corfforol, niwed corfforol gros a dynladdiad. Byddai'r ffactor gwaethygedig hwnnw yn haeddu dedfryd fwy difrifol ond nid yw'n cynyddu uchafswm y cosbau sydd eisoes yn bodoli ar gyfer y troseddau hynny.
Byddai hefyd yn ymestyn pwerau'r heddlu i gymryd samplau gwaed gyda chydsyniad, a samplau nad ydynt o natur bersonol heb ganiatâd, gan unigolion sy'n ymosod ar weithwyr brys pan fydd gan arolygydd sail resymol i gredu bod y gweithiwr brys wedi ei beryglu gan glefyd heintus trosglwyddadwy. Bwriad y cynnig hwnnw yw lleihau nifer y gweithwyr brys sydd yn anffodus yn gorfod cael prawf gwaed eu hunain a chymryd meddyginiaethau proffylactig yn ddiangen weithiau. Bydd hynny'n rhoi mwy o sicrwydd yn gyflymach i weithwyr brys ynghylch p'un a ydyn nhw wedi eu heintio gan glefyd trosglwyddadwy neu beidio.
Yn y Bil mae'r diffiniad o weithwyr brys yn cynnwys yr heddlu, gweithwyr yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol, swyddogion carchardai a'r ddalfa a'r gwasanaethau tân, gweithwyr y gwasanaeth achub a gweithwyr y GIG mewn swyddi sy'n wynebu'r cyhoedd. Wrth gwrs, mae nifer o'r rhai hynny mewn meysydd datganoledig. Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am eu gwaith ac am eu casgliad nad oes ganddyn nhw ychwaith unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig heddiw. Mae rhai o'r gwasanaethau yn y Bil yn disgyn y tu allan i gymhwysedd datganoledig, ond mae eraill—fel y dywedais, y gwasanaeth tân ac achub yn benodol, y gwasanaeth achub a gweithwyr y GIG—wedi eu datganoli. Hoffwn i ofyn i Aelodau ar draws y pleidiau gefnogi'r cynnig heddiw, fel y bydd y darpariaethau yn sicrhau y rhoddir i weithwyr brys Cymru yr un amddiffyniad â gweithwyr brys yn Lloegr, ac ar yr un amserlenni. Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau yn cytuno â'r cynnig heddiw yn gyflym a dod â'r cyfarfod i ben.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Dai Lloyd.
Diolch, Llywydd. Trafododd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yma yn ei gyfarfod ar 11 Ionawr.
Rwy'n siŵr y bydd pawb yn Siambr yn cytuno y dylid croesawu unrhyw fesur sy'n amcanu i wella diogelwch gweithwyr rheng flaen ein gwasanaethau brys: fel rydym ni wedi clywed, yr heddlu, gwasanaethau tân a gweithwyr yn y gwasanaethau iechyd—nyrsys a meddygon ac ati—drwy gryfhau'r gyfraith pan fo troseddau penodol yn cael eu cyflawni yn eu herbyn.
Dylid croesawu hefyd, mewn sefyllfa anffodus lle bo gweithwyr brys yn cael eu hymosod arnynt wrth gyflawni eu gwaith, fod cymalau yn y Bil Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau) a fydd yn caniatáu cymryd sampl gan y person a ymosododd ar y gweithwyr os credir y gallai'r gweithiwr brys fod â risg o gael clefyd heintus wedi'i drosglwyddo iddo. Mae hynny i'w groesawu hefyd.
Yn ogystal â galluogi'r gweithiwr i ddarganfod yn gyflym a ydyw mewn perygl o fod wedi cael ei effeithio gan glefyd heintus, a chymryd camau cyflym i fynd i'r afael â hynny, bydd yn gysur meddwl i'r gweithiwr rhag y straen parhaus a'r pryder wrth ddisgwyl am ganlyniadau, sy'n gallu bod yn wythnosau os nad misoedd weithiau.
Felly, gan y bydd cymeradwyo'r darpariaethau hyn mewn Bil y Deyrnas Unedig yn golygu bod gweithwyr brys mewn gwasanaethau datganoledig yng Nghymru yn cael yr un lefel o ddiogelwch yr un pryd â'r rheini yn Lloegr, nid oes gan y pwyllgor unrhyw wrthwynebiad i gytuno ar y cynnig hwn. Diolch yn fawr.
Fe geisiaf fod yn fyr, ond hoffwn yn gyntaf ddweud llongyfarchiadau i Chris Bryant am gyflwyno hyn yn San Steffan, oherwydd rwy'n credu bod hwn yn Fil rhagorol i'w ddwyn ymlaen ac mae'n adlewyrchu maniffesto Cynulliad 2016 y Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr, pan wnaethom geisio cryfhau cyfreithiau ar gosbau.
Ychydig o gyd-destun yn sydyn, oherwydd bod pawb arall wedi sôn am yr hyn y bydd y Bil yn ei wneud: yn 2017, bu 1,136 o ymosodiadau corfforol yn erbyn staff y GIG ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn unig, a dim ond 27 o'r rheini aeth i'r llys—27 y flwyddyn cynt, 27 y flwyddyn cyn hynny. Mae hynny'n lol llwyr. Yn 2017 daeth ymosodiadau geiriol a chorfforol yn erbyn gweithwyr y GIG i gyfanswm o—mathemateg cyflym yn y fan yma—ychydig yn llai na 7,000 o achosion. O'r 7,000 o achosion hynny, 906 a gyrhaeddodd y llys. Mae angen inni ddweud wrth y cyhoedd, pan fydd pobl yn peryglu eu hunain ar ran y cyhoedd, yn mynd allan yno i'ch helpu chi ni waeth beth yw'r sefyllfa, mae'n rhaid ichi drin pobl â pharch llwyr. Byddwn ni'n cefnogi'r Bil hwn. Da iawn, Chris Bryant. Da iawn chi, Darren, am roi hyn yn ein maniffesto y tro diwethaf.
Hoffwn i wneud ychydig o sylwadau ar hyn, oherwydd rwy'n credu bod hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth yn San Steffan sy'n ddymunol iawn, iawn, ac yn hir-ddisgwyliedig. Mae'n faes lle yr ydym efallai wedi ystyried deddfu ein hunain ar ryw adeg, ond mae'n hollol iawn bod gennym rywfaint o gysondeb yn y maes hwn.
Hoffwn i godi nifer o bwyntiau. Mae'n iawn inni sôn am gynyddu'r dedfrydau ac ati. Diffyg erlyniadau yw'r broblem fwyaf sydd wedi codi, ac rwy'n credu bod angen inni gael gwell dealltwriaeth ynghylch pam mae hynny wedi digwydd, oherwydd rwy'n cofio'r ymgyrchoedd a gawsom dros ddim goddefgarwch ar ymosodiad yn y gwasanaethau iechyd. Beth ddigwyddodd i hynny? Yn sicr ni arweiniodd at gynnydd yn nifer yr erlyniadau, ac ni waeth beth pa ddedfrydau yr ydym ni'n eu gosod, oni bai ein bod yn sicrhau y ceir erlyniadau mewn achosion o'r fath mewn gwirionedd, yna ni cheir yr effaith honno mewn gwirionedd. Felly, y cyfan y byddwn i'n ei awgrymu yw hyn: rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth sy'n gwbl deilwng o gefnogaeth, a llongyfarchiadau i Chris Bryant am symud ymlaen â hyn, ond mae hyn yn fater y mae angen inni gadw dan adolygiad ein hunain, oherwydd os, dros y blynyddoedd nesaf , nad yw'n cael yr effaith a ddymunir, efallai y byddwn ni eisiau edrych ein hunain ar y mater ynghylch sut y mae'r ddeddfwriaeth yn gweithio—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Dim ond i ddweud fy mod i'n cytuno'n llwyr â chi ac roeddwn i'n meddwl tybed a allai fod achos dros ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol a wnaiff ef adolygu pam y mae cyn lleied o erlyniadau wedi bod. I fynd yn ôl i fy achos ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, flwyddyn ar ôl blwyddyn maen nhw wedi cael y nifer uchaf o ymosodiadau a'r nifer isaf o erlyniadau. Felly, rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle i nodi bod rhywbeth, rhywle yn mynd o'i le ac mae'n rhaid inni anfon neges gref nad yw'n dderbyniol i ymosod ar bobl.
Rwy'n cytuno â hynny. Bu rhywfaint o drafodaeth ar hyn yn San Steffan, lle roedd y dystiolaeth yn nodi, yn achos rhai o'r dedfrydau lle y cafwyd erlyniadau, roedd y ddedfryd mor bitw, fod yna agwedd o 'Wel, nid yw'n werth y drafferth. Nid yw'n werth ei gwneud mewn gwirionedd'. Rwy'n credu y ceir anghydbwysedd ehangach mewn gwirionedd o ran erlyniadau troseddol o fewn ein cymdeithas, i'r graddau ei bod yn fwy tebygol cael erlyniad am ladrad, am drosedd budd-daliadau nag mewn achos o ymosodiad direswm, er enghraifft, ac rwy'n credu bod hynny'n fater ym mhob ran o'n system cyfiawnder troseddol. Ond, yn benodol, mae'n gwbl hanfodol yn fy marn i, i bwysleisio pwysigrwydd gwaith y gweithwyr brys sy'n gwasanaethu'r cyhoedd a'r angen i sicrhau eu bod wedi eu diogelu. Ond rwy'n credu y byddai, byddai, yn syniad da iawn i fonitro hyn, a gallai fod yn swyddogaeth i'r Cwnsler Cyffredinol wneud hyn mewn gwirionedd, ond hefyd i ymgysylltu â Gwasanaeth Erlyn y Goron er mwyn sicrhau, pan fydd y ddeddfwriaeth hon yn mynd drwyddo, fod yna ragdybiaeth o erlyniad a bod adolygiad o'r dedfrydau a ddosberthir wedyn, a bod yna hefyd, rwy'n credu, ymgysylltiad â'r corff canllawiau dedfrydu i sicrhau bod y canllawiau dedfrydu yn arbennig o glir, oherwydd fel arall efallai na fydd y ddeddfwriaeth bwysig hon yn cael yr effaith a ddymunir.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl.
Hoffwn i ddiolch i Aelodau am eu cefnogaeth i'r Bil arfaethedig gan Chris Bryant. Rwy'n edrych ymlaen at weld Aelodau yn pleidleisio o'i blaid, ac rwy'n nodi'r sylwadau a wnaed gan Angela Burns a Mick Antoniw ar y materion ehangach am y system cyfiawnder troseddol yn cymryd camau gwirioneddol yn achos cwynion am ymosodiadau ar weithwyr gwasanaethau brys. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Aelodau ar draws y Siambr ac, yn wir, cyd-Aelodau yn y Llywodraeth, i wneud rhywbeth ynghylch hynny hefyd. Llawer o ddiolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Daw hynny â'n trafodaethau am y dydd i ben.