Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 28 Chwefror 2018.
Ydw, rwy'n ymwybodol o'r cynigion hynny hefyd. Os caf gyfyngu'r cwestiynau hyn i fater y bobl 16 a 17 oed am y tro, pwynt arall cysylltiedig, efallai, yw ein bod yn y Cynulliad wedi cyflwyno deddfwriaeth yn ddiweddar a oedd i bob pwrpas yn gwahardd pobl 16 ac 17 oed rhag defnyddio gwelyau haul neu dyllu eu tafodau. Roeddem ni yn UKIP yn cefnogi'r deddfau Llywodraeth hynny. Os ydych bellach yn dweud y dylai fod gan bobl 16 a 17 oed hawl awtomatig i bleidleisio, fel eu bod yn gallu arfer crebwyll gwleidyddol, ond ar yr un pryd, nad ydynt yn gallu arfer crebwyll mewn perthynas â materion fel defnyddio gwelyau haul neu dyllu eu tafodau, onid yw hynny'n creu anghysondeb? A allwch weld sut y gallai'r etholwyr feddwl bod agweddau Llywodraeth Cymru yn anghyson, gan ei bod yn ymddangos bod y ddwy agwedd yn groes i'w gilydd?