Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 28 Chwefror 2018.
Credaf fod y rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol y gallai cyrraedd llawn oed ar gyfer gwahanol fathau o weithgarwch cymdeithasol, beth bynnag y bo, ddigwydd ar oedran ychydig yn wahanol ar gyfer gwahanol faterion, ac rydym yn ymwybodol o hynny. Efallai y bydd unigolyn 16 oed yn gallu pleidleisio ond ni fydd yn gallu gyrru. Rydym yn ymwybodol o'r materion hyn.
Yr hyn rwy'n gobeithio ei wneud yw gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol, sef buddsoddi mewn cymunedau mwy cydlynus, lle mae pobl yn teimlo eu bod wedi eu hetholfreinio a'u bod yn gallu chwarae rhan lawn drwy sicrhau bod pobl nid yn unig yn cael yr hawl i bleidleisio a'r gallu i fwrw'r bleidlais honno, ond hefyd, wrth gwrs, eu bod yn cael y wybodaeth a'r gallu i allu cymryd rhan mewn sgyrsiau gwleidyddol a dadleuon gwleidyddol ynghylch dyfodol y cymunedau hynny. Rwy'n gobeithio y gallwn fynd ymhellach a sicrhau wedyn ein bod yn ymestyn y gallu i bleidleisio mewn pob math o ffyrdd gwahanol, o bleidleisio electronig i bleidleisio ar wahanol ddyddiau, a sicrhau bod pobl, waeth pwy ydynt yn ein cymunedau yng Nghymru, yn gallu chwarae rhan lawn yn y broses o benderfynu ar ddyfodol y cymunedau hynny.