Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 28 Chwefror 2018.
Rwy'n cytuno â'r pwynt a wnewch ynglŷn â chydnabod a deall natur y gymuned, ble mae'r gymuned honno'n byw a sut y mae'n byw, a natur y gymuned honno. Credaf fod angen inni ddeall hynny'n well, ac rwy'n derbyn y pwynt hwnnw'n gyfan gwbl. Rwy'n gyndyn o roi ateb terfynol i'r cwestiwn hwnnw. Byddaf yn darparu ymateb mwy cyfannol i'r adroddiad cyfan pan gaf gyfle i wneud hynny. Ond gadewch i mi ddweud hyn: un o fy mlaenoriaethau yw sicrhau ein bod yn gallu darparu adnoddau lle mae angen yr adnoddau hynny, lle rydym yn darparu gwasanaethau i'r bobl hynny. Mae deall ble mae'r bobl hynny a beth yw eu hanghenion yn hanfodol i'r ymagwedd honno. Felly, credaf fod angen inni ddeall nodweddion a natur y teulu a'r gymuned yn well. Credaf fod angen inni wella ein dealltwriaeth o'r materion hynny. Rwy'n ystyried sut i wneud hynny ar hyn o bryd. Credaf fod y buddsoddiad mewn swyddogion cyswllt ar gyfer awdurdodau lleol, er enghraifft, wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'n dealltwriaeth o'r gymuned a'i hanghenion. Felly, credaf fod mwy nag un ffordd o ateb y cwestiwn penodol hwnnw, ac yn sicr, rwy'n ceisio sicrhau y bydd modd inni ymateb yn llawn maes o law.