Cefnogaeth i Gyn-filwyr

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 28 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:02, 28 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn croesawu cyfraniad gwirfoddolwyr yn y broses o gefnogi cyn-filwyr? Yn amlwg, mae gwirfoddolwyr gan y Lleng Brydeinig Frenhinol, ac rwy'n falch iawn o fod yn aelod o gangen y Barri o'r lleng Brydeinig, sy'n gwneud cymaint o waith, nid yn unig o ran codi arian drwy apêl y pabi, ond hefyd drwy fentrau lleol fel Woody's Lodge—a gwn fod David Melding wedi sôn am hyn—a lansiwyd gan Carl Sargeant yn y Senedd y llynedd. Er eu bod wedi'u lleoli ym Mro Morgannwg, maent bellach wedi sicrhau cyllid i ymestyn ledled Cymru gyfan. Ond mae'n fenter gwbl wirfoddol, sy'n cael ei chynnal a'i harwain gan gyn-filwyr eu hunain ac sydd nid yn unig yn darparu cefnogaeth gyfeirio, ond hefyd y gefnogaeth y gallant ei rhoi i'w gilydd o ran pwysigrwydd y ddealltwriaeth gymdeithasol o ran beth y profiadau y mae pobl wedi'u cael.