Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 28 Chwefror 2018.
Rwy'n gobeithio. Un o'r rhesymau pam rydym wedi penodi swyddogion cyswllt y lluoedd arfog mewn gwahanol awdurdodau lleol yw er mwyn ein galluogi i gydgysylltu'r math hwnnw o waith i sicrhau bod y gwaith a wneir gan wirfoddolwyr yn y trydydd sector yn ategu ac yn gysylltiedig â'r gwaith a wneir gan wasanaethau statudol. Drwy weithio gyda'n gilydd, credaf y gallwn ddarparu gwasanaeth cyfannol i bobl sydd angen y gwasanaeth hwnnw, a thrwy weithio gyda'n gilydd, credaf y gallwn gyflawni llawer mwy nag a gyflawnwn drwy weithio ar wahân. Felly, cytunaf â chi o ran y pwynt a wnewch, a thrwy gael swyddogion cyswllt lleol ar waith mewn gwahanol rannau o Gymru, rwy'n gobeithio y gallwn gael y wybodaeth leol honno a seilio gwasanaethau ar anghenion lleol.