Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 28 Chwefror 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae Jane Hutt wedi tynnu sylw at gymorth gan wirfoddolwyr, ond mae llawer o sefydliadau, bach a mawr, ac elusennau, yn helpu i gefnogi cyn-filwyr. Cafwyd enghraifft o ble y maent weithiau'n methu a rhywun yn cwympo drwy'r rhwyd pan gawsom gyn-filwr ym Maesteg a fu'n byw mewn car am saith mis. Bu'n anlwcus iawn wedi iddo adael y lluoedd; nid oedd yn gymwys yn awtomatig am gymorth tai. Ond mae hynny'n enghraifft o sut y cafodd y gwirfoddolwyr afael arno wedyn. Ond mae'r grwpiau bychain hyn a'r grwpiau mwy o faint yn mynd yn groes i'w gilydd weithiau. A oes modd i Lywodraeth Cymru ddod â'r sefydliadau hyn ynghyd i weld sut y gellir rhoi dull gweithredu cydgysylltiedig ar waith i gefnogi cyn-filwyr yn eu cymunedau?