Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 28 Chwefror 2018.
A gaf fi ddweud, Lywydd, fy mod yn cytuno'n llwyr gyda'r Aelod dros Ferthyr Tudful? Gwn pa mor weithgar y mae hi wedi bod—Merthyr Tudful a Rhymni, dylwn ddweud, wrth gwrs, neu fe fyddaf mewn trafferth ofnadwy. Gwn pa mor weithgar y mae hi wedi bod yn hyrwyddo'r ardal honno, ac rwy'n ymwybodol o'r gwaith y mae wedi'i wneud i sicrhau bod hyn ar agenda tasglu'r Cymoedd a Llywodraeth Cymru yn ehangach.
Gŵyr yr Aelod y byddwn yn cynnal seminar fis nesaf ar sut yr awn ati i sicrhau cymaint o fanteision â phosibl o brosiect deuoli'r A465 i wneud yn siŵr ein bod yn gallu creu'r effaith fwyaf sy'n bosibl ar draws Blaenau'r Cymoedd o Fryn-mawr draw i Hirwaun, er mwyn sicrhau nad gwario'r arian ar ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd yn unig a wnawn, ond ein bod yn ei fuddsoddi mewn datblygu economaidd mewn gwirionedd. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y gwaith a wneir yn yr hybiau strategol ym Merthyr Tudful a Glyn Ebwy er mwyn sicrhau ein bod yn gallu creu rhanbarth economaidd newydd, os mynnwch, ar draws Blaenau'r Cymoedd i gyd, a bod hynny'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth hon yn gweithio arno gyda llywodraeth leol, busnesau ac eraill i'w gefnogi a'i gynnal.