Tasglu'r Cymoedd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 28 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 2:12, 28 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, credaf fod y rhan fwyaf ohonom ni, Aelodau Cynulliad y Cymoedd, yn gefnogol iawn i'r hyb strategol—roeddwn yn ceisio cofio'r geiriau—yn y cynllun. Credaf fod nodi cyfleoedd i fuddsoddi yn yr amodau cymdeithasol ac economaidd mewn cymunedau fel Cwm Rhymni uchaf ac yn eich etholaeth eich hun ym Mlaenau Gwent yn ystyriaeth bwysig ar gyfer partneriaid o'r sector cyhoeddus ar fwrdd y dinas-ranbarth. Rwyf wedi dweud o'r blaen na ddylai unrhyw un wrthwynebu ein buddsoddiad rhanbarthol mewn prosiectau yng Nghasnewydd ac yng Nghaerdydd a rhai o'r cytrefi mawr, ond rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi y bydd y llwyddiant gwirioneddol yn dod pan fyddwn yn gweld twf gwirioneddol a chynaliadwy a llwyddiant mewn lleoedd fel Cwm Rhymni uchaf.