Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 28 Chwefror 2018.
Cytunaf â'r hyn rydych newydd ei ddweud o ran bod hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol yn hollol allweddol, a'n bod yn gwneud hynny mewn ysgolion—ymysg lleoedd eraill, ond mae ysgolion yn bwysig iawn. Ond rwy'n credu bod y rhan fwyaf o asiantaethau cyhoeddus mewn sefyllfa dda iawn i ganfod ymddygiad ac agweddau gwael, ac arwyddion o drais gwirioneddol wedyn hefyd, oherwydd mae cymaint na roddir gwybod yn ei gylch yn hyn o beth. Ac mae'n rhaid i hynny fod yn rhan o'n strategaeth i sicrhau nad oes goddefgarwch o gwbl mewn perthynas â hyn.