Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 28 Chwefror 2018.
Rydym yn ymwybodol iawn fod newidiadau i fudd-daliadau yn achosi rhai anawsterau mewn rhai o'r llochesau yng Nghymru, ac rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda darparwyr i wneud yn siŵr ein bod yn gallu deall beth yn union yw'r problemau. Rydym wedi darparu £5.4 miliwn yn 2017-18 yn y grant gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector ar gyfer gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ac rydym hefyd wedi darparu £376,000 yn 2017-18 ar gyfer prosiect Sbectrwm Hafan Cymru, sy'n dysgu plant am berthnasoedd iach ac am gam-drin, ei ganlyniadau a ble i gael cymorth.
Roedd yn fraint fawr cael mynychu sesiwn o'r rhaglen honno yn ddiweddar i weld drosof fy hun yr effaith y mae'n ei chael ar y plant a'u gallu i ddeall beth yw perthynas iach a beth y gellid ei ystyried yn berthynas heb fod mor iach. Roeddwn yn falch iawn o ansawdd y rhaglen a sut roedd yn codi ymwybyddiaeth, nid yn unig ymysg y grŵp o blant a oedd yn derbyn yr hyfforddiant, ond ar draws yr ysgol a'i staff addysgu hefyd. Felly, roeddwn yn falch iawn o hynny.
Fel y dywedais mewn ateb i gwestiwn yn gynharach, rydym yn cynnal ymgyrch Dyma Fi, oherwydd ein bod yn ymwybodol iawn mai stereoteipio ar sail rhywedd, yn ôl yr holl waith ymchwil, yw un o'r prif elfennau sy'n ysgogi trais domestig a cham-drin domestig, gan fod pobl yn ceisio arddel personoliaeth a nodweddion nad ydynt, yn syml, yn naturiol iddynt, a'r straen y mae hynny'n ei chreu yn y cyd-destun domestig. Felly, rydym yn noddi'r rhaglen honno, ac rwy'n falch iawn o hynny, ac roedd y bobl ifanc yn ymateb yn dda iawn i rai o'r negeseuon yn y rhaglen honno hefyd.