Cam-drin Domestig

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 28 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:58, 28 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Fodd bynnag, mae dioddefwyr cam-drin domestig yng Nghymru yn cael eu gwrthod gan rai llochesau oherwydd diffyg lle, ac mae'r newidiadau cyllido a orfodwyd gan Lywodraeth y DU yn bygwth cau llawer o lochesau ledled y wlad. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i ddiogelu llochesau yng Nghymru, a sut y byddwch yn cynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael?