2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru ar 28 Chwefror 2018.
4. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau nifer y troseddau casineb homoffobig yng Nghymru yn 2018? OAQ51796
Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid ar fwrdd cyfiawnder troseddol Cymru ar gyfer troseddau casineb, gan gynnwys yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron, i fynd i'r afael â throseddau casineb homoffobig. Rydym hefyd yn darparu cyllid ar gyfer Cymorth i Ddioddefwyr Cymru a Stonewall Cymru, drwy ein rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant, sy'n cefnogi gwaith yn y maes hwn.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Mae ymchwil gan Stonewall Cymru wedi dangos bod nifer y bobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol yng Nghymru sydd wedi dioddef troseddau casineb wedi cynyddu 82 y cant yn y pum mlynedd diwethaf. Canfu hefyd na roddir gwybod am bedair o bob pump trosedd neu ddigwyddiad casineb, gyda phobl iau yn arbennig o gyndyn o fynd at yr heddlu. Arweinydd y tŷ, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl ifanc i roi gwybod am droseddau casineb homoffobig ac a yw wedi ystyried defnyddio cyfryngau cymdeithasol, megis ymgyrch Dyma Fi, sy'n codi ymwybyddiaeth o drais domestig?
Yn wir, rydym yn falch iawn o ymgyrch Dyma Fi, a lansiwyd gennyf yng Ngholeg Gŵyr ychydig wythnosau yn ôl bellach. Mae llawer wedi cyfeirio'n eang ati ar y cyfryngau cymdeithasol, ac fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae wedi cael ei seilio i raddau helaeth ar hyrwyddo beth y mae'r ymchwil yn ei ddangos i ni, sef bod cynnydd mewn cydraddoldeb rhwng y rhywiau a chydraddoldeb trawsryweddol yn lleihau trais gan fod pobl yn gallu mynegi eu hunain fel y maent yn dymuno a chan nad ydynt yn cael eu gorfodi i gydymffurfio â rolau a stereoteipiau sy'n golygu nad ydynt yn gallu ymdopi â'u bywydau yn gyffredinol.
Mae gennym nifer o bethau penodol iawn rydym yn eu gwneud mewn perthynas â throseddau casineb. Bydd bwrdd cyfiawnder troseddol Cymru ar gyfer troseddau casineb yn nodi ei amcanion ar gyfer 2018 ar 9 Mai. Bydd y rhain yn cael eu cydlynu â'n fframwaith mynd i'r afael â throseddau a digwyddiadau casineb 2014. Mae'r tri amcan yn ymwneud ag atal, cymorth a gwella ymateb amlasiantaethol. Rydym hefyd, fel y dywedais mewn ateb yn gynharach, o dan y rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant, yn rhoi tua £624,000 o gyllid i Cymorth i Ddioddefwyr a thua £250,000 y flwyddyn i Stonewall Cymru.
Mae'r ganolfan genedlaethol ar gyfer cymorth ac adrodd am droseddau casineb, a gynhelir gan Cymorth i Ddioddefwyr, yn parhau i godi ymwybyddiaeth a helpu dioddefwyr troseddau casineb homoffobig. Maent yn gweithio'n agos â'u chwaer-wasanaeth, gwasanaeth cam-drin domestig LGBT Rainbow Bridge. Rwy'n gobeithio bod yr Aelod yn ymwybodol o ymgyrch Dewch Allan dros LGBT Stonewall Cymru, sy'n annog pobl i wneud safiad gweladwy yn erbyn troseddau casineb LGBT a dangos cefnogaeth i gydraddoldeb LGBT o bob math.
Gan ei fod wedi gofyn yn benodol am ysgolion, rydym hefyd yn gweithio i wneud yn siŵr fod staff ysgol yn gymwys ac yn hyderus ynglŷn â mynd i'r afael â bwlio sy'n gysylltiedig â chasineb. Yn 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau gwersi i ysgolion ar fwlio ar sail rhywedd a thrawsrywedd, wedi'u hanelu at gyfnodau allweddol 3 a 4, sydd i'w gweld ar ein gwasanaeth dysgu digidol Hwb.