2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru ar 28 Chwefror 2018.
5. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am argaeledd band eang cyflym iawn yn Nhrefynwy? OAQ51806
Yn sicr. Yn sgil prosiect Cyflymu Cymru, rydym wedi darparu mynediad at fand eang ffeibr cyflym i 17,767 o safleoedd ar draws pob rhan o Sir Fynwy, sy'n cyfateb i gyfradd gwblhau o ychydig dros 76.2 y cant, ac mae ganddynt gyflymder lawrlwytho cyfartalog o 83.84 Mbps.
Pob clod i chi am lwyddo i ddod o hyd i atebion gwahanol i'r holl gwestiynau ar fand eang heddiw ynghyd ag ystadegau gwahanol. Credaf y bydd eich ffeil yn rhedeg allan yn fuan.
Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Russ George, yn gynharach mewn cwestiynau i chi, penderfynodd llawer o deuluoedd mewn ardaloedd gwledig dynnu'n ôl o gynllun Cyflymu Cymru yn wreiddiol, a oedd yn siomedig iawn. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar eich asesiad o'r posibilrwydd o ddefnyddio technolegau newydd i lenwi'r bylchau sy'n weddill, megis defnyddio amleddau darlledu gwag yn y sbectrwm di-wifr, y mae cwmni yn Sir Fynwy wedi bod yn ei dreialu? Hefyd, mae gan y rhwydwaith 4G gapasiti y gellid ei ddefnyddio ar gyfer band eang. Ac yn dilyn hynny i gyd, a ydych wedi ystyried a allai fod yn briodol datganoli rhywfaint mwy o gyllid i awdurdodau lleol yn uniongyrchol fel y gallant ddod o hyd i atebion pwrpasol, lleol a fydd yn mynd i'r afael â'r bylchau band eang sydd wedi'u lleoli yn eu hardaloedd hwy yn benodol?
Ie, rwy'n hapus iawn i ddweud ein bod yn ystyried pob math o argaeledd band eang. Nid yw'r rhaglen erioed wedi bod yn ddibynnol ar dechnoleg. Yn wir, rhoesom y rhaglen i BT a defnyddiasant ddwy o'u technolegau mawr ar ei chyfer. Ond bob amser, drwy'r rhaglen ABC mewn perthynas â'r rhaglen gyflym iawn, rydym wedi cefnogi pob technoleg yng Nghymru o ba fath bynnag, cyhyd â'i bod yn sicrhau cyflymder uwch na 30 Mbps. Felly, dyna'r maen prawf a dyna'r maen prawf o hyd. Fel rwyf wedi dweud nifer o weithiau yn y Siambr hon, rydym yn ceisio dod o hyd i atebion pwrpasol ar gyfer cymunedau penodol o bobl, ac rwy'n hapus iawn i drafod gydag unrhyw gymuned unrhyw ateb penodol sy'n sicrhau eu bod yn cael y ddarpariaeth honno o 30 Mbps fan lleiaf. Ond beth bynnag sy'n gweithio, rydym yn hapus i weithio gyda beth bynnag sy'n gweithio. Buaswn yn dweud wrth yr Aelod, serch hynny, o ran y nifer sy'n manteisio arno, yn Sir Fynwy, ychydig dros 40.13 y cant yn unig sy'n manteisio arno. Felly, os hoffai weithio gyda mi a fy swyddogion i weld a allem godi'r ffigur hwnnw, buaswn yn ddiolchgar iawn.