Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 28 Chwefror 2018.
Diolch i chi, unwaith eto, am yr atebion hynny, arweinydd y tŷ. Mae ein seilwaith digidol yn dibynnu ar geblau a throsglwyddyddion radio yn ogystal â phersonél wedi'u hyfforddi'n dda, yn arbennig ym maes rheoli data a diogelwch seiber. Mae ymosodiadau seiber a thoriadau yn y canolfannau data wedi creu anhrefn yn y GIG yn ddiweddar, gan amlygu'r ffaith bod gwyddonwyr cyfrifiadurol yr un mor hanfodol i'n GIG a'r gwyddonwyr bywyd. Pa drafodaethau a gawsoch gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg ynglŷn â sicrhau bod gan Gymru ddigon o unigolion medrus i ddiogelu ein seilwaith digidol?