Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 28 Chwefror 2018.
Ydi, mae diogelwch seiber yn fater byw go iawn i ni yn amlwg a chyfarfûm yn ddiweddar â Ciaran Martin, prif weithredwr y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, ac mae fy swyddogion yn cynnal perthynas waith dda gyda'i sefydliad. Rydym yn falch iawn fod y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol newydd gyhoeddi penodiad rheolwr cysylltiadau gweinyddiaethau datganoledig i weithio gyda ni yng Nghymru. Cynhaliodd ein swyddogion weithdy gydag ef ddiwedd mis Ionawr i drafod gweithdrefnau rheoli seiber uniongyrchol cadarn a hynny ar draws Llywodraeth Cymru. Felly, rydym yn weithgar iawn yn sicrhau bod gennym ddiogelwch seiber da ar draws ystâd gyhoeddus Cymru.