2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru ar 28 Chwefror 2018.
3. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth band eang yn Nwyrain Abertawe? OAQ51788
Yn sicr. Er nad oes gennyf y wybodaeth benodol ar gyfer Dwyrain Abertawe, rydym wedi darparu mynediad at fand eang ffeibr cyflym i 24,093 o safleoedd ar draws bob rhan o Abertawe fel rhan o brosiect Cyflymu Cymru, sy'n cyfateb i gyfradd gwblhau o ychydig dros 98 y cant. Y cyflymder lawrlwytho cyfartalog ar draws Abertawe yw 82.81 Mbps ar hyn o bryd.
A beth yw'r cyflymder lanlwytho?
Mae problem fawr gyda'r cyflymderau lanlwytho yn dibynnu ar ba fath o dechnoleg rydych yn ei defnyddio ar gyfer ei gysylltu, ac maent yn dibynnu ar nifer o ffactorau eraill. Felly, gall cwsmeriaid ar gysylltiad ffeibr i'r cabinet ddisgwyl uchafswm cyflymderau lawrlwytho o tua 80 Mbps a chyflymderau lanlwytho o tua 20 Mbps. Ond mae'n dibynnu ar y pellter o'r cabinet, y pecyn y mae'r cwsmer yn ei brynu gan eu darparwr gwasanaeth rhyngrwyd a'r hyn a gaiff ei alw'n 'gystadleuaeth' ar y rhwydwaith, sy'n golygu pa mor brysur ydyw. Fodd bynnag, gall cwsmeriaid ar gysylltiad ffeibr i'r adeilad ddisgwyl cyflymderau lawrlwytho o tua 330 Mbps a chyflymderau lanlwytho o tua 30 Mbps, ac mae hynny'n dibynnu ar y pecyn y mae'r cwsmer yn ei brynu yn ogystal, ond nid yw'n dibynnu ar bellter ac nid yw cysylltiad ffeibr i'r adeilad yn destun cystadleuaeth. Felly, mae gennym y treiddiad ffeibr mwyaf yn y DU ar hyn o bryd, ar draws rhannau o Gymru, oherwydd, yn amlwg, nid oes gan bobl sydd â chysylltiad ffeibr llawn y broblem honno. Yn bendant mae yna broblem gyda chyflymder lanlwytho ar rwydweithiau copr ac yn enwedig wrth i chi fynd i'r ardal bylu allan, ac un o'r pethau sy'n ddiddorol iawn yn Abertawe yw'r prawf BT ar gyfer ffordd newydd o anfon signal drwy wifrau copr yn Abertawe, o'r enw prawf G.fast. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld beth fydd canlyniad hynny cyn bo hir, i weld a allwn ei gyflwyno mewn mannau eraill yng Nghymru.
Mewn ymateb i gwestiwn a ofynnais i Ysgrifennydd yr economi y llynedd am ddarpariaeth band eang ger rheilffyrdd, dywedodd ei fod yn cydnabod pwysigrwydd Wi-Fi ar wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru a chrybwyllodd fod Trenau Arriva Cymru yn gwneud gwaith i wella hynny ar y pryd. Pan fo etholwyr yn mynd i mewn i orsaf drenau Abertawe yng Ngorllewin Abertawe, fe wyddoch nad yw ond yn cymryd eiliadau, fel y bydd Mike Hedges yn cytuno, i fod yn Nwyrain Abertawe ac maent eisoes yn cwyno am ba mor anwadal yw'r cysylltiad Wi-Fi. A ydych wedi siarad ag Ysgrifennydd yr economi o gwbl ynglŷn â sut y gallwn wella gwasanaethau Wi-Fi ar drenau? Sylweddolaf nad eich cyfrifoldeb chi yw trenau, ond mae Wi-Fi yn gyfrifoldeb i chi, felly yn amlwg mae peth gwaith i'w wneud ar y cyd mewn perthynas â hynny?
Yn wir, ac mae ei swyddogion yn mynychu fy ngrŵp gweinidogol ar ddata a gwasanaethau digidol, a gyfarfu y bore yma fel y dywedais. Un o'r pynciau trafod oedd y trefniant data trafnidiaeth newydd rydym yn ei roi ar waith, fel rhan o'r ffordd y mae swyddogion yn gweithio, i ystyried y ffordd orau o wella rhai o'r materion cysylltedd. Felly, byddwch yn gwybod bod Trenau Arriva Cymru newydd roi Wi-Fi ar bob un o'u cerbydau a bydd y cerbydau'n trosglwyddo pan fydd y fasnachfraint yn digwydd. Ond Great Western—rydym wedi methu sicrhau hwnnw, er bod trafodaeth yn mynd rhagddi. Fodd bynnag, rydym yn edrych i weld a allai cytundeb gyda Network Rail fod yn gynhyrchiol o ran defnyddio peth o'r rhwydwaith ei hun fel seilwaith, ac yn wir, rydym hefyd yn edrych ar gysylltu'r ffyrdd ac ati er mwyn gwella rhywfaint ohono. Felly, rwy'n trafod yn ddwys ac yn barhaus gydag Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion ynglŷn â'r ffordd orau o ddefnyddio'r seilwaith sydd ar gael i ni er mwyn cynyddu'r union fath hwnnw o ddarpariaeth.
Arweinydd y tŷ, rydych yn dweud bod cyfradd y rhai sy'n manteisio ar fand eang cyflym iawn wedi parhau i fod yn is o lawer nag argaeledd band eang cyflym iawn mewn gwirionedd. Felly, a gaf fi ofyn beth rydych chi fel Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o argaeledd band eang cyflym iawn yn eu hardal?
Ie, rydym wedi cynyddu swm yr arian rydym yn ei wario ar hyn o bryd ar hysbysebu argaeledd band eang. Rydym newydd gaffael asiantaeth hysbysebu i hysbysebu ar sail dwy sir ar yr un pryd—rhaglen dreigl i hysbysebu argaeledd band eang cyflym iawn er mwyn cynyddu nifer y rhai sy'n manteisio arno.
Hoffwn ddweud, fodd bynnag, fod hwn yn newid diwylliannol anferth. Mae pawb ohonom wedi anghofio pa mor gyflym y digwyddodd y newid hwn mewn gwirionedd. Felly, pan gafodd y rhaglen hon ei rhoi ar waith yn gyntaf, roedd BT eu hunain yn amcangyfrif y byddai tua 21 y cant o'r boblogaeth yn manteisio ar fand eang. Dyna pam fod y gyfran o'r budd wedi'i osod ar 21 y cant. Nid oeddent yn disgwyl rhannu unrhyw elw gyda ni. Ar hyn o bryd mae ychydig dros 50 y cant. Dyna pam y mae gennym gymaint o arian i'w fuddsoddi yn y cyfnod nesaf. Ond yn amlwg, gorau po gyntaf y bydd hwnnw'n cynyddu. Mae amserlen go hir ynghlwm wrtho, felly rydym yn parhau i gael y gyfran honno o'r budd dros nifer o flynyddoedd yn y dyfodol. Felly, buaswn yn annog pob un ohonom i annog cymaint o bobl â phosibl i fynd ar-lein.