Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 28 Chwefror 2018.
Diolch yn fawr, unwaith eto, Simon, am godi'r mater pwysig ynglŷn â phwyntiau gwefru trydan ar ystad y Cynulliad. Yn dilyn ein hymrwymiad blaenorol i osod pwyntiau gwefru trydan, mae’n bleser gennyf gadarnhau bod y gwaith yn mynd ymlaen i osod pwyntiau gwefru trydan ar ystad y Cynulliad erbyn diwedd mis Mawrth 2018. Mae nifer fach o ddefnyddwyr ar yr ystad ar hyn o bryd ac rydym yn gobeithio y bydd y cyfleusterau gwefru newydd yn annog mwy o ddefnyddwyr yn y dyfodol. Gan bwyll, nawr, Simon, Saesneg am y tro.