Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 28 Chwefror 2018.
Diolch yn fawr i'r Comisiynydd am ddefnyddio'r dulliau darlledu dwyieithog yma mor rymus, ac a gaf i ddiolch iddi hi am gadarnhau bod y broses sydd wedi bod ar waith am rhyw flwyddyn nawr yn mynd i gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth? Rwy’n edrych ymlaen, yn bersonol, i allu newid y ffordd rwy’n arfer dod i’r lle yma, nid yn unig ar y trên, wrth gwrs, ond mewn car trydan hefyd. Ond mae’n bwysig i gofio ein bod ni wedi sicrhau bod y Llywodraeth yn buddsoddi £2 filiwn yn y system drwy Gymru gyfan, a’n bod ni fel Cynulliad hefyd yn arwain yn y ffordd yma o ddadgarboneiddio trafnidiaeth, a hefyd yn annog pobl i ddod i’r Cynulliad yn y ffordd sydd mwyaf hwylus iddyn nhw. Felly rwy’n gobeithio’n fawr bod y gwaith yma yn mynd i gael ei gwblhau ac rwy'n edrych ymlaen at weld hynny yn digwydd.