3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru ar 28 Chwefror 2018.
3. A wnaiff y Comisiynydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sicrhau bod mannau gwefru i geir ar ystâd y Cynulliad? OAQ51823
Diolch yn fawr, unwaith eto, Simon, am godi'r mater pwysig ynglŷn â phwyntiau gwefru trydan ar ystad y Cynulliad. Yn dilyn ein hymrwymiad blaenorol i osod pwyntiau gwefru trydan, mae’n bleser gennyf gadarnhau bod y gwaith yn mynd ymlaen i osod pwyntiau gwefru trydan ar ystad y Cynulliad erbyn diwedd mis Mawrth 2018. Mae nifer fach o ddefnyddwyr ar yr ystad ar hyn o bryd ac rydym yn gobeithio y bydd y cyfleusterau gwefru newydd yn annog mwy o ddefnyddwyr yn y dyfodol. Gan bwyll, nawr, Simon, Saesneg am y tro.
Diolch yn fawr i'r Comisiynydd am ddefnyddio'r dulliau darlledu dwyieithog yma mor rymus, ac a gaf i ddiolch iddi hi am gadarnhau bod y broses sydd wedi bod ar waith am rhyw flwyddyn nawr yn mynd i gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth? Rwy’n edrych ymlaen, yn bersonol, i allu newid y ffordd rwy’n arfer dod i’r lle yma, nid yn unig ar y trên, wrth gwrs, ond mewn car trydan hefyd. Ond mae’n bwysig i gofio ein bod ni wedi sicrhau bod y Llywodraeth yn buddsoddi £2 filiwn yn y system drwy Gymru gyfan, a’n bod ni fel Cynulliad hefyd yn arwain yn y ffordd yma o ddadgarboneiddio trafnidiaeth, a hefyd yn annog pobl i ddod i’r Cynulliad yn y ffordd sydd mwyaf hwylus iddyn nhw. Felly rwy’n gobeithio’n fawr bod y gwaith yma yn mynd i gael ei gwblhau ac rwy'n edrych ymlaen at weld hynny yn digwydd.
Diolch i'r Aelod am ei ymateb cadarnhaol, a gobeithiaf y gallwn symud ymlaen o'r fan hon. Pan wnaethom yr arolwg, un person yn unig a oedd yn berchen ar gerbyd trydan, felly rydym bellach yn sefydlu dau bwynt gwefru a fydd, gobeithio, yn ein hannog i leihau'r ôl troed carbon a gallwn edrych ymhellach. Pan fyddwn yn gweld yr ymateb i'r pwyntiau hyn ar waith, gallwn edrych ymlaen at dderbyn mwy o wybodaeth gan Aelodau eraill sy'n dymuno i ni ddefnyddio'r gwasanaethau'n llawnach. Diolch.
Diolch yn fawr iawn.