Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 28 Chwefror 2018.
Diolch i'r Aelod am ei ymateb cadarnhaol, a gobeithiaf y gallwn symud ymlaen o'r fan hon. Pan wnaethom yr arolwg, un person yn unig a oedd yn berchen ar gerbyd trydan, felly rydym bellach yn sefydlu dau bwynt gwefru a fydd, gobeithio, yn ein hannog i leihau'r ôl troed carbon a gallwn edrych ymhellach. Pan fyddwn yn gweld yr ymateb i'r pwyntiau hyn ar waith, gallwn edrych ymlaen at dderbyn mwy o wybodaeth gan Aelodau eraill sy'n dymuno i ni ddefnyddio'r gwasanaethau'n llawnach. Diolch.