Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 28 Chwefror 2018.
A gaf fi gymeradwyo gwaith ein Cadeirydd, Mick Antoniw, ei ragflaenydd, Huw Irranca-Davies, a'r ysgrifenyddiaeth gyfan, yn enwedig y clerc? Credaf fod hwn yn adroddiad rhagorol. Mae'n gryno, a chredaf ei fod eisoes wedi cael rhywfaint o effaith a dylanwad. Ond mae angen llawer iawn o ymdrech i gynhyrchu rhywbeth mor bwerus â hynny, ac i lunio rhyw fath o ddadl resymegol o'r ystod gyfan o drafodaethau a gawsom a'r safbwyntiau a glywsom. Roedd y panel dinasyddion a'r panel arbenigol yn gymorth mawr i ni, a chredaf y gallwn ddweud yn onest fod ein hadroddiad wedi cael ei effeithio'n sylweddol gan y cyfraniadau hynny. A dyna'r ffordd y dylai pwyllgorau weithio mewn gwirionedd, rwy'n credu, pan fyddwn yn estyn allan ac yn ymgysylltu.
Credaf y bydd canlyniadau ymadael â'r UE bob amser yn creu goblygiadau dwys i undod cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig. Nid ydynt yn broblemau anorchfygol, ond maent yn bendant yn heriau. A chredaf y gallwn ni yng Nghymru fod yn falch o'r ffaith ein bod wedi gwneud ein rhan i'w hwynebu, a meddwl am ystod o argymhellion adeiladol iawn i wneud y cyfansoddiad Prydeinig yn fwy cytbwys ac yn gryfach. Yn fy marn i, os nad ydym yn gwneud unrhyw beth, mae perygl y gallai'r rôl fwy i lywodraethiant y DU, yn enwedig o ran llunio polisi yn Lloegr, dros bethau fel yr amgylchedd, amaethyddiaeth, a materion eraill sydd, ar hyn o bryd, yn rhan o bensaernïaeth polisi yr UE—rwy'n credu y gallai'r uchafiaeth anfwriadol hwnnw a gynhyrchir yn Lloegr achosi i rai o'r cyfleoedd a'r gofodau ar gyfer datblygu polisi yng Nghymru ac yn yr Alban, ac yng Ngogledd Iwerddon yn wir, gael eu colli. A dyna sydd angen i ni warchod yn ei erbyn. Gall fod yn anfwriadol, ond os nad ydym yn wynebu'r perygl hwnnw, a'i gywiro'n effeithiol, fe wneir niwed sylweddol i'r setliad datganoli yn y pen draw.
Rwy'n credu y bydd adnoddau Whitehall bob amser o fudd mawr, o bosibl, i weddill y Deyrnas Unedig, i'r Llywodraethau datganoledig, ond mae'n rhaid iddynt gael eu defnyddio mewn partneriaeth, ac ni ellir eu defnyddio i orfodi cytundebau na cheir cydsyniad gwirioneddol iddynt, ac rwy'n credu bod yn rhaid i hyn fod wrth wraidd datblygu'r fframweithiau a fydd eu hangen yn y DU, a sut y byddant yn cael eu gweithredu a pha mor agored, atebol ac agored i graffu seneddol priodol ydynt—bydd yr holl bethau hyn yn angenrheidiol ar gyfer llywodraeth dda a chryf.
Mae Mick eisoes wedi rhoi sylw i fater y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. A gaf fi ddweud y bydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn parhau i fod yn bwysig, yn enwedig wrth negodi cytundebau masnach? Ac rwy'n gobeithio y bydd yn gweithio ychydig fel roedd Cyd-bwyllgor Gweinidogion Ewrop yn arfer gweithio. Pan oedd yn paratoi ar gyfer gwaith yn y cynghorau Ewropeaidd, byddai'n datblygu nodyn siarad, gyda holl swyddogion y gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig, ac yna weithiau byddai'n caniatáu i Weinidogion o Gymru a'r Alban i fynychu, a weithiau i siarad, a dyna'r math o gyfranogiad a phartneriaeth y credaf ein bod yn ei ddisgwyl.
O ran datblygu'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion fel bod ganddo swyddogaeth cyngor gweinidogol ei hun, neu fod cyngor gweinidogion yn cael ei greu o'r newydd, rwy'n credu bod angen iddo gael yr adnoddau priodol, mae angen iddo gael cynlluniau gwaith ac agendâu effeithiol, a gallai gael ei swyddogion ei hun. Ac unwaith eto, bydd yn rhaid iddo weithio ar sail modelau cydlywodraethu, a rhyw ffurf o fecanwaith datrys anghydfodau, pan fo hynny'n angenrheidiol, ond yn gyffredinol, bydd yn rhaid iddo gael y cryfder a'r trylwyredd sefydliadol angenrheidiol i ganiatáu i'r math o gydweithio a phartneriaethau y byddwn eu hangen gael eu llunio'n briodol.
O ran gwaith rhynglywodraethol, nid wyf yn credu ein bod eisiau gweld system gaeedig yn y DU ar gyfer cydlywodraethu yn cymryd lle system gymharol gaeedig yr UE, a gall Llywodraethau lithro i hynny'n hawdd iawn. Bydd angen i ddeddfwyr y DU graffu'n drwyadl yn ogystal.
Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, daw hyn â mi at y syniad o gynhadledd y Llefaryddion. Mae datganoli bron yn ugain oed. Credaf y bydd hwn yn amser gwych i edrych ar gysylltiadau rhyngseneddol, gyda Llefaryddion y Deyrnas Unedig—y pedwar ohonynt, rwy'n credu—yn dod at ei gilydd i gynnal cynhadledd. Ceir traddodiad balch o gynadleddau Llefarydd—a Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn unig oedd hwnnw'n arfer bod bryd hynny wrth gwrs—pan gynhelid cynhadledd i edrych ar faterion cyfansoddiadol mawr. Ac felly rwy'n credu bod y syniad hwn i'w ganmol yn fawr, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi a'r Llywydd yn canfod eich bod yn gallu datblygu'r argymhelliad penodol hwn, a siarad â'ch cymheiriaid yn y rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Diolch yn fawr iawn.