7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ad-drefnu gweinidogol: adroddiad yr Ysgrifennydd Parhaol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 28 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 4:29, 28 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi. Rwy'n deall y pwynt y mae'n ei wneud, ac rwy'n deall y pwynt roedd Lee Waters hefyd yn ei wneud, ond y broblem inni fel Cynulliad yn dod at ein gilydd, rwy'n credu, yw nad oes gan ymchwiliad Bowen, yn ôl yr hyn a ddeallaf, unrhyw gylch gorchwyl wedi'i gytuno o hyd. Yn sicr nid oes ganddo amserlen rydym yn ei deall, ac mae'n gosod persbectif arall ar ben persbectif yr adroddiad hwn, ac felly bydd yn fwyfwy anodd deall y pwynt y mae wedi bod yn ei wneud, sef a rannwyd gwybodaeth a awdurdodwyd ymlaen llaw. Bydd hynny'n cael ei golli os ydym yn ei roi gerbron ymchwiliad arall nad ydym yn deall ei ddiben o hyd.