Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 6 Mawrth 2018.
Prif Weinidog, mae'n ymddangos bod llawer o awdurdodau lleol yn cael anhawster o ran bodloni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Er enghraifft, mae llawer o ofalwyr ledled y wlad nad ydyn nhw wedi cael asesiadau gofalwyr. Mae diwedd y grant byw'n annibynnol yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Prif Weinidog, a allwch chi sicrhau y bydd y rheini sy'n cael y grant byw'n annibynnol yn derbyn cymorth sydd yr un fath neu'n well na'r cymorth y maen nhw'n ei gael ar hyn o bryd pan mai awdurdodau lleol fydd yn darparu'r cymorth hwnnw?