Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 6 Mawrth 2018.
Wel, mae'r gwaith monitro hwnnw'n parhau. Rydym ni'n gwybod bod awdurdodau lleol wedi adolygu, neu wrthi'n adolygu anghenion cymorth ychydig dros 350 o gyn-dderbynwyr y gronfa byw'n annibynnol yng Nghymru yn y dyfodol. O'r rhain, roedd ychydig dros 30 eisoes wedi cytuno ac yn derbyn eu cymorth yn y dyfodol naill ai'n uniongyrchol gan yr awdurdod neu drwy dderbyn taliadau uniongyrchol er mwyn cael gafael ar eu cymorth eu hunain. Nawr, mae angen, wrth gwrs, parhau gyda'r trefniadau monitro, fel y soniais yn gynharach. Rydym ni eisiau monitro profiad derbynwyr o'r broses, a dyna'r hyn y mae'r Gweinidog yn ei ystyried ar hyn o bryd o ran sut y gellid bwrw ymlaen â hynny.