Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 6 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:42, 6 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Iawn, diolch am hynny.

Bu llawer o alwadau am ymchwiliad i'r marwolaethau hyn, gan gynnwys galwadau gan eich plaid eich hun. Nawr, rydym ni'n gwybod y bu methiannau ym maes gofal iechyd meddwl yng Nghymru. Rydym ni i gyd yn gallu cofio sgandal Tawel Fan. Felly, nid wyf yn credu bod unrhyw le i laesu dwylo o ran y cwestiwn hwn. Mae cyfraddau hunanladdiad yn uwch yng Nghymru nag y maen nhw yn yr Alban a Lloegr, ac eto rydym ni hefyd yn gwybod bod lleiafrif o bobl sy'n colli eu bywydau wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y flwyddyn cyn eu marwolaeth. Mae hyn yn awgrymu nad yw anghenion iechyd meddwl pawb, ond pobl ifanc yn enwedig o bosibl, yn cael eu diwallu. A all ein gwasanaethau cyhoeddus fod yn fwy rhagweithiol o ran nodi a chynorthwyo pobl sy'n dioddef argyfyngau iechyd meddwl i gael cymorth yn gynharach, ac a oes gennych chi broblem mynediad gyda'ch gwasanaethau iechyd meddwl?