Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 6 Mawrth 2018.
Rwy'n credu bod problemau gyda rhannau penodol o'r boblogaeth nad ydynt yn cael gafael ar wasanaethau, sydd ddim eisiau neu ddim yn cydnabod y gallai fod ganddyn nhw symptomau sy'n awgrymu cyflwr iechyd meddwl negyddol. Wrth gwrs, drwy'r ysgolion, mae gennym ni system gymorth erbyn hyn sy'n helpu pobl ifanc, a byddem yn annog meddygon teulu, gan eu bod nhw'n siarad â phobl sy'n dod i'w gweld gydag anhwylderau corfforol efallai, i geisio canfod pa un a oes rhywbeth dyfnach sy'n effeithio ar gyflwr iechyd cyffredinol rhywun.