Oed Pleidleisio

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 6 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 1:37, 6 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, efallai eich bod chi wedi sylwi, yn yr Alban, yn y refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban, bod 75 y cant o bobl 16 a 17 oed wedi pleidleisio. Mae hynny'n cymharu â 54 y cant ar gyfer y grŵp oedran yn uniongyrchol ar ôl hynny—18 i 24—ac roedd gwahaniaeth tebyg iawn yn bodoli yn etholiadau lleol yr Alban yn 2017. A ydych chi'n cytuno â mi fod greddfu arfer o bleidleisio yn gynnar yn cynnig budd mawr i gymdeithas ac yn caniatáu i ni ganolbwyntio ar gyfrifoldebau dinasyddiaeth, ond hefyd ein gallu i ddylanwadu ar yr hyn sy'n digwydd o'n cwmpas yn y byd yr ydym ni'n byw ynddo?