Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 6 Mawrth 2018.
Yn sicr. 'Pleidleisiwch yn gynnar, pleidleisiwch yn aml' oedd y slogan yng Ngogledd Iwerddon flynyddoedd lawer yn ôl. Mae angen i ni adael yr ail ran ohono allan, rwy'n amau. Ond mae'r ffigurau yn siarad drostynt eu hunain. Mae'r ffaith fod pobl 16 i 18 oed wedi pleidleisio ar gyfradd uwch o lawer na'r rheini yn y grŵp oedran uniongyrchol nesaf yn dangos pa mor frwdfrydig ydyn nhw, faint o gysylltiad sydd ganddyn nhw â'r broses wleidyddol, a pha mor bwysig yw hi bod y synnwyr hwnnw o gysylltiad yn parhau wrth iddynt fynd yn hŷn.