Oed Pleidleisio

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 6 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:39, 6 Mawrth 2018

Mae Plaid Cymru yn cefnogi estyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 yn sicr, ond rydym ni'n moyn cael pobl i bleidleisio mewn niferoedd mwy o bob oedran, wrth gwrs. Mae'n rhaid rhoi rheswm da iddyn nhw i bleidleisio ac allwch chi ddim jest disgwyl i bobl bleidleisio oherwydd eich bod chi wedi rhoi'r hawl iddyn nhw. Felly, yn eich cynigion ar gyfer gwella pleidleisio ar gyfer awdurdodau lleol, ble ydych chi'n rhoi'r flaenoriaeth? Ai drwy wneud pob pleidlais i gyfrif drwy system bleidleisio gyfranogol, er enghraifft, drwy newid y dull pleidleisio, gwahanol ddiwrnodau, pleidleisio electronig, pleidleisio mewn gwahanol ddulliau? Lle ydych chi'n meddwl y byddwch chi nid yn unig yn cael y bobl ifanc â'r hawl i bleidleisio, ond yn eu hannog nhw i bleidleisio yn ogystal?