– Senedd Cymru am 6:44 pm ar 6 Mawrth 2018.
Mae'r bleidlais gyntaf ar y ddadl ar yr ail gyllideb atodol 2017-18. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, 23 yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly, derbyniwyd y cynnig.
Y bleidlais nesaf yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 am y Bil a elwir yn Fil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), a bod hynny'n cael ei drin fel Bil brys. Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, neb yn ymatal, 10 yn erbyn, ac felly derbyniwyd y cynnig.
Y bleidlais nesaf yw i gytuno'r amserlen ar gyfer y Bil a elwir yn Fil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), ac rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 43, neb yn ymatal, 11 yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig.
A dyna ddod â'n trafodion am y dydd i ben.