Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 6 Mawrth 2018.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Gorfodi Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2018. Er bod y rhan fwyaf o'r diwydiant gwastraff yn gweithredu mewn ffordd gyfrifol, rydym yn gweld problemau sylweddol o du rhan fechan o'r diwydiant sydd yn methu â bodloni'r safon ofynnol neu sydd yn gweithredu yn groes i'r gyfraith. Mae gwastraff a gaiff ei waddodi yn anghyfreithlon a safleoedd wedi eu rheoli'n wael yn achosi perygl o dân ac yn achosi llygredd yn llwybrau'r dŵr, a gall achosi arogleuon, sbwriel a phlâu pryfetach. Yn anffodus, gwyddom mai'r cymunedau cyfagos sy'n dioddef ac mai cyrff cyhoeddus a pherchnogion tir sy'n cael eu gadael i glirio'r llanast ac ymdrin â'r canlyniadau.
Rydym wedi cydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru i nodi beth arall y gellir ei wneud i atal safleoedd gwastraff segur sy'n achosi problemau. Rwyf wedi gwrando ar farn y diwydiant, a ymatebodd i'r ymgynghoriad ar y pwerau gorfodi newydd i'r rheolyddion, ac rwy'n falch nawr o gyflwyno'r rheoliadau hyn sydd yn rhan o gyfres o fesurau sy'n anelu at fynd i'r afael â throseddau sy'n ymwneud â gwastraff yng Nghymru.
Mae'r rheoliadau yn darparu dau bŵer newydd. Bydd y pŵer cyntaf yn galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfyngu ar fynediad i safle gwastraff a rhwystro mewnforio mwy o wastraff drwy gloi'r fynedfa neu wahardd mynediad er mwyn atal y perygl o lygredd difrifol neu i atal parhad y llygredd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn amcangyfrif bod tua thri safle yn cael eu gadael yn segur bob blwyddyn. I leihau'r effaith yn sgil y gwastraff a gaiff ei adael, mae'r ail bŵer yn galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol i roi hysbysiad i feddiannydd neu berchennog tir yn gofyn iddynt symud gwastraff sydd yno'n anghyfreithlon ar y safle, hyd yn oed os cafodd ei waddodi yno'n gyfreithlon yn wreiddiol. Bydd ganddyn nhw hefyd y pŵer i orfodi meddianwyr a thirfeddianwyr i gymryd camau i ddileu neu leihau unrhyw ganlyniadau a achosir gan gadw neu waredu'r gwastraff ar y tir.
Yn dilyn ymgynghoriadau gyda'r diwydiant, rwyf wedi cyflwyno cyfnod trosiannol o ddeufis cyn y bydd y pŵer i symud gwastraff o'r tir yn dod i rym. Bydd hyn yn rhoi amser i feddianwyr a thirfeddianwyr ddeall y newidiadau a'r pwerau deddfwriaethol newydd. Mae'n hanfodol i orfodaeth rheoliad y sector gwastraff gael ei ategu gan ddeddfwriaeth os ydym yn mynd i ddiogelu'r amgylchedd ac iechyd pobl, ac i leihau effaith safleoedd gwastraff segur.
Bydd mwy o bwerau i gymryd camau yn erbyn masnachwyr anghyfreithlon hefyd yn helpu i roi cyfle teg i bawb yn y diwydiant ac yn helpu i sicrhau na fydd masnachwyr cyfreithlon yn colli busnes i'r rhai sy'n tanseilio'r mwyafrif sy'n parchu'r gyfraith. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r ddeddfwriaeth hon. Diolch yn fawr iawn.