– Senedd Cymru am 4:20 pm ar 6 Mawrth 2018.
Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw Rheoliadau Gorfodi Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2018, ac rwy'n galw ar y Gweinidog dros yr Amgylchedd i wneud y cynnig. Hannah Blythyn.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Gorfodi Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2018. Er bod y rhan fwyaf o'r diwydiant gwastraff yn gweithredu mewn ffordd gyfrifol, rydym yn gweld problemau sylweddol o du rhan fechan o'r diwydiant sydd yn methu â bodloni'r safon ofynnol neu sydd yn gweithredu yn groes i'r gyfraith. Mae gwastraff a gaiff ei waddodi yn anghyfreithlon a safleoedd wedi eu rheoli'n wael yn achosi perygl o dân ac yn achosi llygredd yn llwybrau'r dŵr, a gall achosi arogleuon, sbwriel a phlâu pryfetach. Yn anffodus, gwyddom mai'r cymunedau cyfagos sy'n dioddef ac mai cyrff cyhoeddus a pherchnogion tir sy'n cael eu gadael i glirio'r llanast ac ymdrin â'r canlyniadau.
Rydym wedi cydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru i nodi beth arall y gellir ei wneud i atal safleoedd gwastraff segur sy'n achosi problemau. Rwyf wedi gwrando ar farn y diwydiant, a ymatebodd i'r ymgynghoriad ar y pwerau gorfodi newydd i'r rheolyddion, ac rwy'n falch nawr o gyflwyno'r rheoliadau hyn sydd yn rhan o gyfres o fesurau sy'n anelu at fynd i'r afael â throseddau sy'n ymwneud â gwastraff yng Nghymru.
Mae'r rheoliadau yn darparu dau bŵer newydd. Bydd y pŵer cyntaf yn galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfyngu ar fynediad i safle gwastraff a rhwystro mewnforio mwy o wastraff drwy gloi'r fynedfa neu wahardd mynediad er mwyn atal y perygl o lygredd difrifol neu i atal parhad y llygredd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn amcangyfrif bod tua thri safle yn cael eu gadael yn segur bob blwyddyn. I leihau'r effaith yn sgil y gwastraff a gaiff ei adael, mae'r ail bŵer yn galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol i roi hysbysiad i feddiannydd neu berchennog tir yn gofyn iddynt symud gwastraff sydd yno'n anghyfreithlon ar y safle, hyd yn oed os cafodd ei waddodi yno'n gyfreithlon yn wreiddiol. Bydd ganddyn nhw hefyd y pŵer i orfodi meddianwyr a thirfeddianwyr i gymryd camau i ddileu neu leihau unrhyw ganlyniadau a achosir gan gadw neu waredu'r gwastraff ar y tir.
Yn dilyn ymgynghoriadau gyda'r diwydiant, rwyf wedi cyflwyno cyfnod trosiannol o ddeufis cyn y bydd y pŵer i symud gwastraff o'r tir yn dod i rym. Bydd hyn yn rhoi amser i feddianwyr a thirfeddianwyr ddeall y newidiadau a'r pwerau deddfwriaethol newydd. Mae'n hanfodol i orfodaeth rheoliad y sector gwastraff gael ei ategu gan ddeddfwriaeth os ydym yn mynd i ddiogelu'r amgylchedd ac iechyd pobl, ac i leihau effaith safleoedd gwastraff segur.
Bydd mwy o bwerau i gymryd camau yn erbyn masnachwyr anghyfreithlon hefyd yn helpu i roi cyfle teg i bawb yn y diwydiant ac yn helpu i sicrhau na fydd masnachwyr cyfreithlon yn colli busnes i'r rhai sy'n tanseilio'r mwyafrif sy'n parchu'r gyfraith. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r ddeddfwriaeth hon. Diolch yn fawr iawn.
Bydd Plaid Cymru’n cefnogi'r rheoliadau ac yn croesawu, yn arbennig, y grym newydd a fydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru i rwystro'r defnydd pellach o safle anghyfreithlon. Byddai sawl person yn synnu nad yw’r grym erbyn hyn gyda’r mudiad, y corff, i wneud hynny. Yn sicr, fe fydd yn ffordd o atal llygru pellach i ddigwydd, ac rwy’n croesawu hynny.
Un cwestiwn sydd gyda fi i’r Gweinidog mewn perthynas â'r rheoliadau hyn. Yn amlwg, dylai unrhyw dirfeddiannwr sydd wedi caniatáu i’w dir gael ei ddefnyddio at y pwrpas anghyfreithlon yma wynebu cosb os oes angen. Ond mae yna enghreifftiau o dir sydd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer dymchwel sbwriel anghyfreithlon, dros gyfnod weithiau hefyd, heb fod y tirfeddiannwr bob tro yn gwybod hynny, ac weithiau mae tirfeddiannwr wedi’i gau allan o’r tir yn ogystal. Rwyf jest eisiau gofyn i’r Gweinidog pa fath o ddiogelwch fydd yn y system i sicrhau bod rhywun nad yw’n ymwybodol bod ei dir wedi’i ddefnyddio at y pwrpas yma ddim yn cael ei ddal gan y rheoliadau hyn.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
prydlesu tir yn ymwybodol o oblygiadau tymor hwy, ac mae cael y grym sy’n edrych ymlaen yn rhoi cyfle i
Diolch yn fawr iawn ichi, a diolch yn fawr am y cwestiwn. Nid wyf yn credu y byddai'n ddadl ar reoliadau heb gwestiwn neu gyfraniad gan Simon Thomas.
Rwy'n ddiolchgar am eich cyfraniad, a bydd y rheoliadau hyn yn helpu ein rheolyddion i fynd i'r afael â safleoedd gwastraff sy'n perfformio'n wael a safleoedd anghyfreithlon, ac yn lleihau'r effaith sydd gan safleoedd gwastraff segur ar y cymunedau cyfagos.
Rydych yn crybwyll y tirfeddianwyr nad ydyn nhw'n ymwybodol efallai—rydym yn disgwyl i'r rheoliadau wneud y rhai sy'n prydlesu tir yn ymwybodol o oblygiadau tymor hwy, ac mae cael y grym sy’n edrych ymlaen yn rhoi cyfle i landlordiaid wneud y newidiadau, a bydd y ffordd y maen nhw'n prydlesu ac yn rheoli tir yn darparu ar gyfer newid i'r dyfodol. A bydd camau y gall Cyfoeth Naturiol Cymru eu cymryd i wneud yn siŵr bod tirfeddianwyr yn y sefyllfa orau i'w hamddiffyn eu hunain wrth fynd ymlaen. Gallai'r camau hyn gynnwys sicrhau bod tirfeddianwyr yn ymwybodol o'r goblygiadau. Efallai na fydd rhai tirfeddianwyr yn ymwybodol eu bod yn cyflawni trosedd drwy ganiatáu i wastraff gael eu storio ar dir neu ar eiddo penodol heb ganiatâd, a gallai'r gost hon eu gadael yn agored i erlyniad a chostau glanhau sylweddol Rhan o hynny yw codi ymwybyddiaeth a dyna pam yr ydym yn cael cyfnod pontio—i roi'r amser hwnnw i dirfeddianwyr allu gwneud yr addasiadau hynny sydd angen eu gwneud, fel nad ydyn nhw, gobeithio, yn cael eu hunain mewn sefyllfa o gael eu cosbi.
Gwyddom fod angen i fwy gael ei wneud i wella perfformiad y diwydiant gwastraff a chael gwared ar yr elfen dwyllodrus honno, pan ydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o fasnachwyr a thirfeddianwyr yn gweithredu o fewn y gyfraith. Yn Llywodraeth Cymru, byddwn yn parhau i weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i nodi ymhle y gellir cymryd unrhyw gamau pellach i leihau effeithiau a chost troseddau gwastraff ar gymunedau cyfagos.
Nid diwedd y gwaith yw'r rheoliadau hyn i fynd i'r afael â throseddau gwastraff. Ym mis Ionawr, cyhoeddais ymgynghoriad pellach ar y cyd ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gynigion pellach i wella perfformiad y sector gwastraff, gan gynnwys diwygio'r drefn eithriadau a'r trefniant cymhwysedd i bobl sy'n gwneud cais i weithredu cyfleuster gwastraff. Edrychaf ymlaen at allu cyflwyno cynigion deddfwriaeth pellach gerbron y Cynulliad i roi hwb i'n hymdrechion i fynd i'r afael â throseddau gwastraff ac yn wir i gyflawni ein huchelgais o gael economi gylchol effeithiol yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, cytunir ar y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.