5. Rheoliadau Gorfodaeth Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2018

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 6 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 4:22, 6 Mawrth 2018

Bydd Plaid Cymru’n cefnogi'r rheoliadau ac yn croesawu, yn arbennig, y grym newydd a fydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru i rwystro'r defnydd pellach o safle anghyfreithlon. Byddai sawl person yn synnu nad yw’r grym erbyn hyn gyda’r mudiad, y corff, i wneud hynny. Yn sicr, fe fydd yn ffordd o atal llygru pellach i ddigwydd, ac rwy’n croesawu hynny.

Un cwestiwn sydd gyda fi i’r Gweinidog mewn perthynas â'r rheoliadau hyn. Yn amlwg, dylai unrhyw dirfeddiannwr sydd wedi caniatáu i’w dir gael ei ddefnyddio at y pwrpas anghyfreithlon yma wynebu cosb os oes angen. Ond mae yna enghreifftiau o dir sydd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer dymchwel sbwriel anghyfreithlon, dros gyfnod weithiau hefyd, heb fod y tirfeddiannwr bob tro yn gwybod hynny, ac weithiau mae tirfeddiannwr wedi’i gau allan o’r tir yn ogystal. Rwyf jest eisiau gofyn i’r Gweinidog pa fath o ddiogelwch fydd yn y system i sicrhau bod rhywun nad yw’n ymwybodol bod ei dir wedi’i ddefnyddio at y pwrpas yma ddim yn cael ei ddal gan y rheoliadau hyn.