7. Dadl: Yr Ail Gyllideb Atodol 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 6 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 4:45, 6 Mawrth 2018

Mae yna bethau i'w croesawu, wrth gwrs—yn benodol, fel yr oedd yr Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn, y £30 miliwn ychwanegol ar gyfer addysg Gymraeg fel rhan o'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth. O'i natur, wrth gwrs, mae cyllideb atodol, fel yr oedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei ddweud, yn dueddol o fod yn dechnegol weinyddol. Er gwaethaf hynny, wrth gwrs, byddwn i'n ategu'n sicr prif fyrdwn y neges a glywsom ni gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: yr angen, a dweud y gwir, inni ddeall yn well y stori tu ôl i'r ffigurau. Hynny yw, mae ffigurau, wrth gwrs, yn greiddiol bwysig i unrhyw gyllideb, ond mae geiriau hefyd, y naratif, yn hynod allweddol hefyd i ni ddeall y broses o ddod at y penderfyniadau ynglŷn â'r dyraniadau a'r trosglwyddiadau ac yn y blaen.

Yn benodol, wrth gwrs, mae hwn yn codi o ran sut y mae egwyddorion ac amcanion Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wedi cael eu gweithredu. Mae'n rhywbeth yr oedd adroddiad y pwyllgor yn cyfeirio ato fe yn benodol, fe ddaeth lan yn nhystiolaeth yr Ysgrifennydd Cabinet, ac mi oedd e'n gallu rhoi rhai enghreifftiau lle yr oedd yr egwyddorion wedi cael eu gweithredu. Ond rydw i yn rhyw feddwl bod angen dynesiad sydd yn fwy systemataidd, hynny yw, rhywbeth ar hyd y llinellau lle byddai efallai yn y memorandwm esboniadol neu mewn adroddiad cyfatebol—bod yna ddadansoddiad ynglŷn â sut mae'r Llywodraeth wedi mynd ati i weithredu'r egwyddorion wrth ddod i'w hargymhellion o ran y gyllideb. 

Jest ar gwpwl o bethau penodol—. Roedd Simon Thomas wedi cyfeirio at y trafodiadau ariannol. Rwy'n deall bod yna gyfyngiadau ynglŷn â sut y mae modd defnyddio nhw, wrth gwrs, ond pan fo yna gyfyngiadau, wrth gwrs, mae'n rhaid wedyn bod yn greadigol. Rydw i'n sylwi yn yr Alban, er enghraifft, fod Llywodraeth yr Alban wedi defnyddio trafodiadau ariannol ar gyfer benthyciadau i fusnesau bychain, er enghraifft, ar gyfer ariannu buddsoddiadau o ran carbon isel, y diwydiant carbon isel. Nawr, maen nhw wedi cyhoeddi'r bwriad i greu banc buddsoddi cenedlaethol i'r Alban gyda chyfalaf o £2 biliwn—£2 biliwn—felly tipyn yn fwy o ran sgôp na'r banc datblygu sydd gyda ni ar hyn o bryd, a thrafodiadau ariannol maen nhw'n mynd i'w defnyddio er mwyn cyrraedd y nod uchelgeisiol hwnnw. Felly tybed a oes yna sgôp i'r Llywodraeth gael trafodaeth gydag arweinwyr y banc datblygu i weld a ydym ni'n gallu efelychu'r Alban yn hynny o beth. 

Cyfeiriais at yr arian ychwanegol ar gyfer addysg Gymraeg—mae hwnnw i'w groesawu. Mae'r ychydig o arian hefyd ar gyfer prosiect datblygu gyda'r Mudiad Ysgolion Meithrin hefyd i'w groesawu. Jest cwestiwn technegol—os nad yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu ateb nawr, gall  ysgrifennu ataf i—mae yna drosglwyddiad yn y cynnig o £2.3 miliwn, o Gymraeg mewn addysg i hyrwyddo'r Gymraeg. Mae yna gyllideb eisoes yn bodoli wrth gwrs, drwy'r cytundeb rhyngom ni, ond mae yna £300 miliwn ar gyfer prosiectau eraill sydd yn ymwneud â hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym ni'n sôn am arian ychwanegol ar ben y £2 filiwn ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg a wnaethom ni negodi fel rhan o'r cytundeb, rydw i'n cymryd. Byddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu cadarnhau hynny i ni.

Un peth negyddol rydw i'n becso ychydig bach amdano yn y gyllideb ydy dau drosglwyddiad: o'r gronfa wyddoniaeth neu o'r llinell gwariant gwyddoniaeth i eiddo yn gyffredinol, ac £1.7 miliwn yn cael ei drosglwyddo o arloesedd i wybodaeth i fusnes yn gyffredinol. Mae hynny ar adeg, wrth gwrs, lle mae'r Llywodraeth yn y gyllideb nesaf yn mynd i dorri'r arian sydd ar gael ar gyfer arloesedd o 78 y cant. Rwy'n poeni i weld rhagor o arian yn cael ei drosglwyddo o'r cronfeydd ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd pan, a dweud y gwir, ddylem ni fod—ar adeg Brexit ar y gorwel ac yn y blaen, oni ddylem ni fod yn buddsoddi yn fwy yn ein sylfaen gwyddonol ac arloesol?