Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 6 Mawrth 2018.
Erbyn y cam hwn yn y cylch ariannol, teimlaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn debyg i'r dyn sydd yn dilyn sioe yr Arglwydd Faer gyda rhaw er mwyn tacluso'r strydoedd ar ôl y prif ddigwyddiad. Felly, er inni bleidleisio yn erbyn y brif gyllideb, fel Nick Ramsay gallaf ddweud ar ran fy mhlaid i na fyddwn yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb atodol hon. Er ei bod yn gwneud rhai newidiadau sylweddol, tacluso'n unig yw llawer ohoni.
Rydym yn sicr yn cefnogi'r £30 miliwn ychwanegol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg i ddarparu ffrwd cyllid cyfalaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i'r blynyddoedd sydd i ddod, sef rhan hanfodol o wireddu amcan y Llywodraeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rwy'n sicr yn cefnogi popeth a dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid hefyd, ac, yn wir, Adam Price, o ran deall y fethodoleg o ran y newidiadau i flaenoriaethau, er eu bod ar ymylon y cyllidebau dan sylw, mewn perthynas â'r amcanion a nodwyd yn gyffredinol gan y Llywodraeth mewn dogfennau fel 'Ffyniant i Bawb'.
Hoffwn ganmol Ysgrifennydd y Cabinet hefyd am y dystiolaeth a roddodd i'r pwyllgor yn y cyswllt hwn a'i barodrwydd amlwg i weithio gyda'r pwyllgor yn hynny o beth. Yn sicr, y prif beth a ddaeth yn sgil ystyried y gyllideb yn y pwyllgor yn fy marn i oedd y dystiolaeth a gawsom am y gorwariant yn y gwasanaeth iechyd gwladol a'r byrddau iechyd lleol. Mae hon yn amlwg yn broblem gynhenid, a roeddwn yn cydymdeimlo ag Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd a'r anawsterau y mae hynny'n ei achosi iddo pan fyddwn yn gweld y diffygion ariannol annisgwyl hyn, sydd, gan hynny, yn cyfyngu ar y Llywodraeth mewn meysydd eraill hefyd. O ystyried pwysigrwydd iechyd yng ngolwg y cyhoedd, a maint y gwariant ar iechyd fel cyfran o gyllideb Llywodraeth Cymru, bydd gan unrhyw orwariant sylweddol gan awdurdodau iechyd lleol o reidrwydd sgil-effeithiau ar rannau eraill o'r gyllideb.
Yn anffodus, mae'n ymddangos mai gwaethygu y mae pethau yn hytrach na gwella, oherwydd, ym mharagraffau 25 a 26 o adroddiad y pwyllgor, fel y dywedwn ni:
'Roedd y sefyllfa gyfanredol ar gyfer yr holl Fyrddau Iechyd Lleol am y cyfnod o dair blynedd hyd at 2016-17 yn orwariant net o £253 miliwn', ac, ar gyfer y cyfnod hyd at fis Rhagfyr 2017, y diffyg oedd £135 miliwn, gydag
'amcangyfrif ar gyfer blwyddyn lawn 2017-18 dros £170 miliwn’, sy'n cymharu â diffyg gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn flaenorol o ddim ond £147.8 miliwn. Felly, mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y mae angen ymdrin ag ef ar sail mwy hirdymor na dim ond mewn cyllideb atodol, ac rwy'n gobeithio y bydd yna rywfaint o gydnabyddiaeth o hyn yn y gyllideb lawn nesaf y flwyddyn nesaf—yn amlwg, ni ellir ymdrin â hynny yn y gyllideb atodol hon.
Gan hynny, mae fy nhair munud wedi dod i ben, Dirprwy Lywydd, a byddaf yn dangos esiampl nad yw eraill wedi ei gwneud efallai wrth imi gadw at eich awgrym. Felly, byddwn ni'n ymatal ar y bleidlais hon.