Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 6 Mawrth 2018.
Heddiw, rydym yn pleidleisio ar gyflwyno y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) fel Bil brys y Llywodraeth. Mae hyn yn gwireddu'r alwad gan Blaid Cymru i gyflwyno Bil parhad ac mae'n adeg dyngedfennol i'n cenedl ac o ran ein hymateb i'r broses o ymadael â'r UE. Mae'r Bil hwn yn rhoi'r dylanwad mwyaf sylweddol sydd gennym ni fel gwlad yn y ddadl hon ar hyn o bryd.
Hoffwn fynd â chi yn ôl i 8 Tachwedd 2016. Dyna pryd yr esgorwyd ar y syniad o Fil parhad—pan gafodd ei gynnig gyntaf gan Blaid Cymru fel ffordd o atal San Steffan rhag cipio grym. Roedd hyn cyn i Lywodraeth y DU gyflwyno Bil ymadael yr UE ac yn dangos bod rhai ohonom ni ar y meinciau hyn yn rhagweld y byddai bygythiad i'r pwerau hynny a oedd yn dychwelyd o Frwsel. Ac yn awr, fwy na blwyddyn yn ddiweddarach, rydym o'r diwedd mewn sefyllfa lle mae'r Bil parhad hwn yn mynd rhagddo. Nid yw hyn ond yn digwydd oherwydd eiriolaeth ddi-baid o blaid y Bil, ac oherwydd methiant Llywodraeth y DU i gynnig ateb i'r broblem wirioneddol o gipio grym gan San Steffan. Maen nhw wedi methu â bodloni Llywodraeth Cymru na Llywodraeth yr Alban. Mae'n bwysig nodi yng Nghymru a'r Alban ill dwy fod y gefnogaeth i'r Bil parhad nid yn unig o du'r Llywodraeth; yn y ddau achos, mae mwyafrif y Senedd yn gefnogol. Nid oes a wnelo hyn yn unig â grym y Llywodraeth a grym Gweinidogion; mae a wnelo hyn â'r Cynulliad cyfan. Mae'n ymwneud â democratiaeth Cymru a phleidleisiau olynol o blaid pwerau deddfu a datganoli.
Bydd Plaid Cymru, wrth gwrs, yn pleidleisio o blaid y ddau gynnig heno. Ond, Llywydd, rwyf o'r farn ei bod yn anffodus na fydd y bleidlais heno yn unfrydol. Bydd gennym fwyafrif clir a llethol o Aelodau'r Cynulliad o blaid y Bil hwn o hyd, sydd yn gadarnhaol, ond fel y cyfaddefodd David Melding eisoes, mae'r neges yn gryfach o lawer pan fydd yr holl bleidiau'n gytûn. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn dibynnu ar gefnogi neu wrthwynebu'r egwyddor o adael yr UE. Nid yw hyn yn ymwneud â hynny. Byddwn yn croesawu pleidleisio ochr yn ochr â phleidiau eraill yr wrthblaid ar hyn ar ôl i gynnig deddfwriaethol yr Aelod gael cefnogaeth unfrydol yn gynharach eleni. Ond er gwaethaf hyn, mae'n rhaid inni symud ymlaen yn awr gyda mwyafrif effeithiol o ddwy ran o dair i gefnogi'r Bil hwn, sy'n cynrychioli pleidlais gref o hyder o blaid amddiffyn democratiaeth Cymru.
Llywydd, rwy'n cytuno â'r ddadl y gellid bod wedi osgoi'r weithdrefn frys, ond bellach mae hynny'n rhy hwyr. Byddai Plaid Cymru wedi cefnogi cyflwyniad y Bil hwn yn gynharach o lawer; roeddem eisiau gweld hynny'n digwydd. Ond mae cyflwyno'r Bil o dan weithdrefn frys yn well, yn ein barn ni, na chael dim Bil o gwbl. Ar hyn o bryd yn y broses o ymadael â'r UE, nid oes unrhyw ddadl argyhoeddiadol o blaid llaesu dwylo a chaniatáu i San Steffan gipio'r pwerau sydd eisoes wedi'u datganoli. Rydym wedi dysgu'r ffordd anodd, dro ar ôl tro, i beidio ag ymddiried yn San Steffan. Faint o addewidion? Ac mae San Steffan eisoes wedi anwybyddu cynnig cydsyniad deddfwriaethol o'r lle hwn ar gomisiynwyr yr heddlu. Mae'n rhaid i unrhyw bwerau datganoledig a gaiff eu rhannu ar lefel y DU neu Brydain Fawr fod wedi eu cyd-benderfynu gan Lywodraethau'r DU. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gadw'n driw i'r farn honno ac i wrthsefyll unrhyw ymgais i geisio gwyrdroi penderfyniadau'r Cynulliad hwn yn y llysoedd.
Llywydd, i gloi, mae Plaid Cymru yn parhau i alw am Fil parhad a byddwn yn pleidleisio o blaid cynigion heddiw. Byddwn bob amser, bob amser yn amddiffyn ein sefydliadau democrataidd yr ymdrechwyd mor ddyfal i'w cael a'n democratiaeth genedlaethol—bob amser.