9. & 10. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 fod Bil a elwir yn Fil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn cael ei drin fel Bil Brys y Llywodraeth a Chynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil a elwir yn Fil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 6 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 6:20, 6 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Mae fy marn i am y Bil hwn yn seiliedig ar gyd-destun—ac rwy'n credu mai'r brif flaenoriaeth, yn gyfansoddiadol, yw ein bod yn parchu ewyllys y bobl, a bod refferenda, hyd yn oed os nad ydyn nhw, o ran eu ffurf, yn gofyn am ymlyniad cyfreithiol, maen nhw'n sicr yn gofyn am ymlyniad moesol pan fo'r Senedd, boed hynny yn San Steffan neu yma, wedi rhoi ar y llyfr statud y ddeddfwriaeth sy'n rhoi grym cyfreithiol iddynt—