1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2018.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y grant gwella addysg i ysgolion? OAQ51839
Diolch, Russell. Drwy'r grant gwella addysg i ysgolion byddwn yn parhau i ddarparu mwy na £225 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf i gefnogi'r cyfnod sylfaen a gwelliannau mewn ysgolion. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol a fydd o fudd i bob dysgwr fel rhan o'r gwaith o gyflawni ein cenhadaeth genedlaethol.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn gwrando ar eich atebion i Darren Millar yn gynharach, ac fe ymrwymoch chi £5 miliwn o'ch cronfeydd wrth gefn ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19 er mwyn caniatáu ar gyfer yr effaith ar awdurdodau lleol trefol. Ond ymddengys, yn ôl eich ateb i Darren Millar, fod y ffigur hwnnw bellach yn £7.5 miliwn. Sut rydych yn bwriadu cefnogi dysgwyr yng nghanolbarth a gogledd Cymru, ac yn benodol, faint o'r £2.5 miliwn hwnnw y cyfeirioch chi ato'n gynharach a fydd yn cefnogi dysgwyr ym Mhowys?
Wel, Russell, yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn cyfeirio arian i lle mae unigolion a fyddai wedi elwa dan rai o'r grantiau hyn o'r blaen wedi'u lleoli. Oherwydd y trosglwyddo, bydd rhai awdurdodau na fyddai wedi derbyn—neu a fyddai ond wedi derbyn ychydig iawn—o dan yr hen grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig a'r grant Sipsi/Teithwyr, wedi elwa mewn gwirionedd o dan ddosbarthiad y grant cynnal refeniw. Felly, ar hyn o bryd, nid wyf yn rhagweld y byddaf yn darparu unrhyw adnoddau ychwanegol yn hyn o beth.
Ysgrifennydd y Cabinet, diben y grant gwella addysg yw cynorthwyo'r consortia rhanbarthol i wella canlyniadau i bob dysgwr. Mae'r ysgol gyfun orau yng Nghymru, Pontarddulais, yn fy rhanbarth i, ond mae hefyd yn cynnwys un o'r ysgolion sy'n perfformio waethaf, ychydig filltiroedd yn unig i lawr y ffordd. Felly, sut y mae eich Llywodraeth yn bwriadu cael gwared ar y fath wahaniaeth mewn cyrhaeddiad o fewn consortia rhanbarthol?
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gydnabod ysgol Pontarddulais. Neithiwr, cyfarfûm â phennaeth yr ysgol wrth iddi ddod yn un o aelodau cyswllt newydd cyntaf yr academi arweinyddiaeth, ac mae ei chyfraniad i'r broses o godi safonau yn ei hysgol ei hun a ledled y rhanbarth yn un o'r rhesymau pam y cafodd ei phenodi i un o'r rolau hyn yr ystyriaf eu bod yn llawn bri.
Mae amrywio yn ein system, boed yn amrywio o fewn yr ysgol, yn amrywio o fewn y sir, neu'n wir, yn amrywio o fewn y rhanbarth, yn parhau i beri cryn bryder i mi. Cyfeiriwyd at hynny ddoe yn ein dadl ar adroddiad blynyddol Estyn o ran y ffaith bod arnom angen gwell gweithio rhwng ysgolion fel y gallwn sicrhau cyn lleied â phosibl o amrywio, gan ei bod anhygoel, onid yw, fel y disgrifiwyd gennych yn awr, y gall un ardal fechan gynnwys sefydliadau sy'n perfformio'n wych a rhai nad ydynt yn gwneud cystal? Mae angen inni fanteisio ar y cyfle i ddysgu gan y goreuon a rhannu'r arferion da hynny.