1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2018.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am addysg wleidyddol a dinasyddiaeth mewn ysgolion yng Nghymru? OAQ51858
Diolch, Mr Bennett. Mae gan ddysgwyr gyfle i astudio gwleidyddiaeth a dinasyddiaeth fel rhan o fagloriaeth Cymru ac mewn addysg bersonol a chymdeithasol. Mae sicrhau bod dysgwyr yn dod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus yn un o bedwar diben y cwricwlwm newydd. Bydd addysg wleidyddol a dinasyddiaeth yn rhan ganolog o'r gwaith o gefnogi hyn.
Ie, diolch am yr ateb. Gyda'r posibilrwydd y bydd pobl 16 a 17 oed yn cael pleidleisio yng Nghymru, credaf y gall fod achos cryfach bellach dros wella darpariaeth addysg wleidyddol yn y system ysgolion. Yn wir, mae llawer o ymgyrchwyr ifanc sy'n awyddus i gael y bleidlais wedi galw am hynny. Felly, tybed, wrth symud ymlaen, a yw'n debygol y bydd unrhyw newid, yn eich tyb chi, i ddarpariaeth addysg wleidyddol?
Wel, yn wir, mae'r gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm newydd yn darparu cyfle gwirioneddol i sicrhau addysg eang a chytbwys ar gyfer plant a phobl ifanc ledled Cymru, a buaswn yn cynnwys addysg wleidyddol a dinasyddiaeth yn hynny o beth. Yn wir, fel mam i ferch 16 oed, sy'n awyddus iawn i gael y cyfle i allu cael hawl ddemocrataidd a bwrw ei phleidlais ac sydd â chryn ddiddordeb—sy'n codi arswyd arnaf, weithiau—mewn gwleidyddiaeth, credaf fod llawer mwy y gallwn ei wneud. Un o ddibenion ein cwricwlwm, fel y dywedais, yw sicrhau bod gennym ddinasyddion moesegol, gwybodus, ac mae gallu rhoi'r sgiliau i'n pobl ifanc, er enghraifft, i ddeall y bydd geiriau ar ochr y bws ac i herio beth yn union y maent i'w gweld yn ei feddwl neu'n ei addo, ac i allu gweithredu yn unol â hynny, yn rhywbeth i'w groesawu'n fawr.