Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 7 Mawrth 2018.
Diolch yn fawr iawn. Rydw i am wneud cais i chi beidio â bod yn ddiduedd fel cynghorwyr gyrfaoedd. Diddordeb sydd gen i yn eich parodrwydd chi i gydweithio efo'r Ysgrifennydd Cabinet iechyd i annog pobl ifanc Cymru i ddilyn gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal. A fuasech chi, fel Llywodraeth, yn cefnogi cyd-fuddsoddiad rhwng addysg ac iechyd, o bosib, mewn math o roadshow Cymru gyfan i egluro am a chreu cyffro am yr holl ystod o ddewisiadau gyrfaoedd yn y meysydd yma, o nyrsio i feddygaeth i ofal i broffesiynau iechyd eraill—rhywbeth a allai hefyd ddyblu i fyny, rydw i'n meddwl, ar yr un pryd, fel roadshow yn annog pobl i gymryd diddordeb yn eu hiechyd eu hunain, yn eu cyrff eu hunain, yn eu deiet eu hunain ac yn y blaen? Mi fuaswn i'n hapus iawn i gyfarfod cynrychiolwyr y Llywodraeth i ddweud mwy am fy ngweledigaeth i ar hyn.