1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2018.
11. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau cyngor gyrfaoedd? OAQ51872
Mae Gyrfa Cymru yn wasanaeth gyrfaoedd diduedd sy’n rhoi cyngor ac arweiniad i bobl ifanc ac oedolion. Mae hefyd yn hwyluso cysylltiadau rhwng addysg a chyflogwyr. Mae’r gwasanaeth wrthi’n cael ei ddiwygio ar hyn o bryd mewn ffordd eithaf cyffrous, a bydd mwy fyth o ffocws ar weithio gyda phobl ifanc a rhanddeiliaid ac ar ddatblygu gwasanaethau digidol.
Diolch yn fawr iawn. Rydw i am wneud cais i chi beidio â bod yn ddiduedd fel cynghorwyr gyrfaoedd. Diddordeb sydd gen i yn eich parodrwydd chi i gydweithio efo'r Ysgrifennydd Cabinet iechyd i annog pobl ifanc Cymru i ddilyn gyrfaoedd ym maes iechyd a gofal. A fuasech chi, fel Llywodraeth, yn cefnogi cyd-fuddsoddiad rhwng addysg ac iechyd, o bosib, mewn math o roadshow Cymru gyfan i egluro am a chreu cyffro am yr holl ystod o ddewisiadau gyrfaoedd yn y meysydd yma, o nyrsio i feddygaeth i ofal i broffesiynau iechyd eraill—rhywbeth a allai hefyd ddyblu i fyny, rydw i'n meddwl, ar yr un pryd, fel roadshow yn annog pobl i gymryd diddordeb yn eu hiechyd eu hunain, yn eu cyrff eu hunain, yn eu deiet eu hunain ac yn y blaen? Mi fuaswn i'n hapus iawn i gyfarfod cynrychiolwyr y Llywodraeth i ddweud mwy am fy ngweledigaeth i ar hyn.
Wel, mae lot fawr o bethau cyffrous yn digwydd yn y maes yma eisoes. Rŷm ni yn cael diwrnodau lle rŷm ni'n annog pobl ifanc i gael go—'Have a go' days—ac mae miloedd ar filoedd o blant ifanc wedi mynd i'r llefydd yma lle maen nhw'n cael access i weld pa fath o gyfleodd sydd yna ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Mae iechyd yn rhan o hynny. Mae'n rhaid i ni hefyd, wrth gwrs, bwysleisio'r ffaith bod eisiau i ni gael pobl i edrych i mewn i STEM subjects a sicrhau ein bod ni ddim jest yn pwysleisio, nid ydw i'n meddwl, jest iechyd, ond mae yna lefydd eraill; er enghraifft, fe fyddem ni, gobeithio, eisiau gweld pobl yn mynd i mewn i Wylfa a'r datblygiadau yna. Felly, rydw i'n meddwl na fyddai ei gyfyngu fe jest i iechyd, efallai, y math o drywydd y byddem ni eisiau mynd arno. Ond byddwn ni yn fodlon rhoi mwy o wybodaeth am y diwrnodau yma sydd eisoes yn digwydd—'Have a go' days—sydd yn llwyddiannus dros ben.
Heblaw am Gyrfa Cymru, wrth gwrs, Weinidog, mae nifer o sefydliadau, busnesau ac elusennau eraill sy'n cynnig cyngor ar yrfaoedd a chyfarwyddyd a hyfforddiant—a llawer ohonynt yn cael arian gan Lywodraeth Cymru neu'n cael arian o ffynonellau sy'n dechrau gyda threthdalwyr Cymru. Sut rydych yn gweithio gyda'r sefydliadau hyn i sicrhau eu bod yn deall pwysigrwydd cynyddol sgiliau iaith Gymraeg? A ydych yn sicrhau, hyd yn oed os yw'r ymwybyddiaeth gan sefydliadau, fod gan y bobl y maent yn eu hyfforddi hefyd yr ymwybyddiaeth honno ar ddiwedd y profiad hwnnw?
Rwy'n falch o glywed y cwestiwn hwnnw, oherwydd credaf fod angen inni gydnabod y Gymraeg fel sgil yn ogystal â phethau eraill. Po fwyaf y gofynnwn i wahanol sefydliadau gadw at y safonau, y mwyaf y bydd angen inni recriwtio pobl â'r sgiliau angenrheidiol i roi'r cynlluniau hynny ar waith. Felly, ceir ymwybyddiaeth fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei bwysleisio. Rydym yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar hynny bellach mewn colegau addysg bellach, gan ein bod wedi deall bod hwnnw'n faes lle y cafwyd gostyngiad anferth yn nifer y bobl a oedd yn defnyddio'r Gymraeg ar ôl iddynt orffen addysg Gymraeg. Felly, mae cyfleoedd go iawn i'w cael. Mae'n rhywbeth rydym yn canolbwyntio arno, gan ddeall bod yr iaith Gymraeg yn sgìl, ac yn ffordd o gael swydd yn y dyfodol. Mae llawer o hyn yn ymwneud â rhoi hyder i bobl.
i ddefnyddio'r Gymraeg mewn ffordd, efallai, i'w helpu nhw i ddeall ei bod hi'n rhan bwysig o'r sgiliau sydd ganddyn nhw hefyd.
Diolch i'r Gweinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet.