Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 7 Mawrth 2018.
Wel, mae lot fawr o bethau cyffrous yn digwydd yn y maes yma eisoes. Rŷm ni yn cael diwrnodau lle rŷm ni'n annog pobl ifanc i gael go—'Have a go' days—ac mae miloedd ar filoedd o blant ifanc wedi mynd i'r llefydd yma lle maen nhw'n cael access i weld pa fath o gyfleodd sydd yna ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Mae iechyd yn rhan o hynny. Mae'n rhaid i ni hefyd, wrth gwrs, bwysleisio'r ffaith bod eisiau i ni gael pobl i edrych i mewn i STEM subjects a sicrhau ein bod ni ddim jest yn pwysleisio, nid ydw i'n meddwl, jest iechyd, ond mae yna lefydd eraill; er enghraifft, fe fyddem ni, gobeithio, eisiau gweld pobl yn mynd i mewn i Wylfa a'r datblygiadau yna. Felly, rydw i'n meddwl na fyddai ei gyfyngu fe jest i iechyd, efallai, y math o drywydd y byddem ni eisiau mynd arno. Ond byddwn ni yn fodlon rhoi mwy o wybodaeth am y diwrnodau yma sydd eisoes yn digwydd—'Have a go' days—sydd yn llwyddiannus dros ben.