Gweithredu Diwydiannol yn Sector y Prifysgolion

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:11, 7 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Onid yw'n drychineb fod degau o filoedd o staff prifysgol ledled y DU wedi gorfod mynd ar streic i wrthsefyll newid unochrog gan Universities UK i'w cynllun pensiwn, ac mewn rhai achosion bydd hynny'n golygu lleihau gwerth pensiynau hyd at 40 y cant? Ddydd Llun, Ysgrifennydd y Cabinet, cefais y fraint o ymuno ag aelodau o'r Undeb Prifysgolion a Cholegau ar y llinell biced. Roeddent yn gofyn am un peth: adolygiad annibynnol a fyddai'n arwain at drafodaethau dilys. A ydych yn cytuno bod hon yn alwad resymol, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i annog—a dywedaf eto, annog—trafodaethau dilys er mwyn dod â'r anghydfod hwn i ben?