Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 7 Mawrth 2018.
Fel y dywedais wrth ateb y cwestiynau a ofynnodd Llyr Huws Gruffydd yn gynharach, mae Llywodraeth Cymru yn barod i ddarparu pa gymorth bynnag sy'n bosibl, sy'n angenrheidiol ac sydd ei angen i sicrhau negodi dilys a chadarnhaol rhwng y cyflogwyr a'r gweithwyr, ac rydym yn parhau i fod yn barod i wneud hynny. Rydym hefyd yn gweithio'n galed gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar fyfyrwyr unigol a all gael eu heffeithio gan y streiciau hyn.